Mae cyfrifoldebau cymhleth yn tanseilio gwaith cyrff cyhoeddus ar ddiogelwch cymunedol Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei adroddiad cenedlaethol diweddaraf, Diogelwch Cymunedol yng Nghymru, sy'n edrych yn fanwl ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i wella diogelwch cymunedol. Mae i'r adroddiad, a gyhoeddir heddiw, bedwar prif gasgliad;
Wyt ti’n barod i danio #GyrfaSy'nCyfrif? Wyt ti'n awyddus i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru? Wyt ti'n adnabod rhywun sy'n awyddus i ddechrau gyrfa ystyrlon, gyda hyfforddiant gwych, buddiannau hael a rhaglen waith amrywiol? Yna gallai Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion 2016-17 fod yn addas i ti. Mae ein rhaglen yn para am bum mlynedd ac yn rhoi sgiliau archwilio yn y swydd i raddedigion yn ogystal ag absenoldeb astudio wrth i ti weithio tuag at gymhwyster cyfrifyddiaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Canmol Cyngor Torfaen am ei weledigaeth glir, arweinyddiaeth a chynlluniau ar gyfer gwella Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen weledigaeth strategol glir, wedi'i hysgogi gan arweinyddiaeth agored a chynhwysol, ac mae wrthi'n datblygu ei drefniadau corfforaethol i gyflawni gwell canlyniadau. Dyna gasgliad adroddiad Asesiad Corfforaethol yr Archwilydd Cyffredinol ar yr awdurdod, a gyhoeddir heddiw.
Arolwg blynyddol yn amlinellu ein cynnydd cydraddoldeb ac amrywiaeth Yn 2015-16, parhaodd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i ddatblygu ein rhaglen waith cyffredinol i sicrhau fod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i’n galluogi i lwyr gyflawni ein dyletswyddau a’n hamcanion cydraddoldeb. Mae’r adroddiad yn bwrw golwg ar y cynnydd a wnaed ar yr amcanion a’r datblygiadau allweddol sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt yn ystod ein rhaglen waith ar gydraddoldeb yn 2016-17. Mae hyn yn cynnwys: Risgiau, heriau a chyfleoedd i lywodraeth cymru yn gysylltiedig â chaffael masnachfraint rheilffyrdd Yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'i dull o gaffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau er mwyn iddi wireddu pob un o'r buddiannau arfaethedig yn llwyr. Mae adroddiad heddiw, sef ‘Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd’ yn nodi'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran caffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau, sy'n debygol o weithredu am 15 mlynedd o 2018. Mae Gan fro Morgannwg weledigaeth glir o ran yr hyn y mae am ei gyflawni Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn adroddiad Asesu Corfforaethol cadarnhaol heddiw sydd wedi dod i'r casgliad bod ganddo 'weledigaeth glir o ran yr hyn y mae am ei gyflawni, ac mae'n gwneud newidiadau cadarnhaol a ddylai sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i barhau i sicrhau gwelliant’ Mae gwaith cynllunio ariannol cynghorau yn cryfhau Mae Cynghorau Cymru'n mynd drwy gyfnod o ostyngiadau parhaus yn eu cyllid, sy'n cael effaith ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau allweddol i'r cyhoedd. Mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar ba mor gadarn yw cynghorau'n ariannol wrth reoli eu cyllid a chynllunio newidiadau i'r dyfodol. Mae'r adroddiad yn edrych ar ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio ariannol presennol, rheolaeth a threfniadau llywodraethu y 22 cyngor yng Nghymru. Ymgynghoriad archwilio yn arwain y ffordd ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol Mewn ymateb i gwestiynau am archwilio yng nghyswllt y Ddeddf arloesol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy at eu gwaith, cafodd ei Ymgynghoriad gyfradd ymateb o wyth deg y cant. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i dynnu sylw at yr ymatebion ystyriol ac adeiladol a gafodd sy'n dangos diddordeb mawr mewn helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o archwilio ymhellach. Llywodraeth Cymru'n gwneud cynnydd gyda rheoli perygl cynyddol llifogydd ac erydu arfordirol (Sain yn Saesneg yn unig. Isdeitlau Cymraeg ar gael trwy gosodiadau closed captions "CC") Gwerth £4.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol Mae'r ymarferiad gwrth-dwyll cenedlaethol diweddaraf, sy'n cael ei gynnal bob chwe mis, wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus Cymru i ddarganfod £4.4 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus yn 2014-15, yn ôl adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw. Gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth, mae'n hanfodol i gyrff cyhoeddus ddileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau'r effaith bosibl ar wasanaethau rheng flaen. Pagination First page « Diweddaf Previous page < Blaenorol … Tudalen 91 Tudalen 92 Tudalen 93 Tudalen 94 Current page 95 Tudalen 96 Tudalen 97 Tudalen 98 Tudalen 99 … Tudalen nesaf Nesaf › Last page Olaf » Subscribe to
Risgiau, heriau a chyfleoedd i lywodraeth cymru yn gysylltiedig â chaffael masnachfraint rheilffyrdd Yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'i dull o gaffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau er mwyn iddi wireddu pob un o'r buddiannau arfaethedig yn llwyr. Mae adroddiad heddiw, sef ‘Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd’ yn nodi'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran caffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau, sy'n debygol o weithredu am 15 mlynedd o 2018.
Mae Gan fro Morgannwg weledigaeth glir o ran yr hyn y mae am ei gyflawni Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn adroddiad Asesu Corfforaethol cadarnhaol heddiw sydd wedi dod i'r casgliad bod ganddo 'weledigaeth glir o ran yr hyn y mae am ei gyflawni, ac mae'n gwneud newidiadau cadarnhaol a ddylai sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i barhau i sicrhau gwelliant’
Mae gwaith cynllunio ariannol cynghorau yn cryfhau Mae Cynghorau Cymru'n mynd drwy gyfnod o ostyngiadau parhaus yn eu cyllid, sy'n cael effaith ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau allweddol i'r cyhoedd. Mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar ba mor gadarn yw cynghorau'n ariannol wrth reoli eu cyllid a chynllunio newidiadau i'r dyfodol. Mae'r adroddiad yn edrych ar ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio ariannol presennol, rheolaeth a threfniadau llywodraethu y 22 cyngor yng Nghymru. Ymgynghoriad archwilio yn arwain y ffordd ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol Mewn ymateb i gwestiynau am archwilio yng nghyswllt y Ddeddf arloesol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy at eu gwaith, cafodd ei Ymgynghoriad gyfradd ymateb o wyth deg y cant. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i dynnu sylw at yr ymatebion ystyriol ac adeiladol a gafodd sy'n dangos diddordeb mawr mewn helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o archwilio ymhellach. Llywodraeth Cymru'n gwneud cynnydd gyda rheoli perygl cynyddol llifogydd ac erydu arfordirol (Sain yn Saesneg yn unig. Isdeitlau Cymraeg ar gael trwy gosodiadau closed captions "CC") Gwerth £4.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol Mae'r ymarferiad gwrth-dwyll cenedlaethol diweddaraf, sy'n cael ei gynnal bob chwe mis, wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus Cymru i ddarganfod £4.4 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus yn 2014-15, yn ôl adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw. Gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth, mae'n hanfodol i gyrff cyhoeddus ddileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau'r effaith bosibl ar wasanaethau rheng flaen. Pagination First page « Diweddaf Previous page < Blaenorol … Tudalen 91 Tudalen 92 Tudalen 93 Tudalen 94 Current page 95 Tudalen 96 Tudalen 97 Tudalen 98 Tudalen 99 … Tudalen nesaf Nesaf › Last page Olaf » Subscribe to
Ymgynghoriad archwilio yn arwain y ffordd ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol Mewn ymateb i gwestiynau am archwilio yng nghyswllt y Ddeddf arloesol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy at eu gwaith, cafodd ei Ymgynghoriad gyfradd ymateb o wyth deg y cant. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i dynnu sylw at yr ymatebion ystyriol ac adeiladol a gafodd sy'n dangos diddordeb mawr mewn helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o archwilio ymhellach.
Llywodraeth Cymru'n gwneud cynnydd gyda rheoli perygl cynyddol llifogydd ac erydu arfordirol (Sain yn Saesneg yn unig. Isdeitlau Cymraeg ar gael trwy gosodiadau closed captions "CC")
Gwerth £4.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol Mae'r ymarferiad gwrth-dwyll cenedlaethol diweddaraf, sy'n cael ei gynnal bob chwe mis, wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus Cymru i ddarganfod £4.4 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus yn 2014-15, yn ôl adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw. Gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth, mae'n hanfodol i gyrff cyhoeddus ddileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau'r effaith bosibl ar wasanaethau rheng flaen. Pagination First page « Diweddaf Previous page < Blaenorol … Tudalen 91 Tudalen 92 Tudalen 93 Tudalen 94 Current page 95 Tudalen 96 Tudalen 97 Tudalen 98 Tudalen 99 … Tudalen nesaf Nesaf › Last page Olaf » Subscribe to