Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniol a ffontiau
  • chwyddo’r testun hyd at 300% heb fod y testun yn symud oddi ar y sgrin
  • symud o gwmpas y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • neidio i'r prif gynnwys. Mae gan bob un o'n tudalennau’r gallu ar frig y dudalen i neidio i'r brif gynnwys, gan roi'r dewis i chi osgoi'r prif dewislen. I’w ddefnyddio pwyswch ‘tab’ pan fydd y dudalen yn llwytho ac yna pwyswch ‘Enter’ i ddewis.
  • symud o gwmpas rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • profi dylunio ymatebol. Mae ein gwefan ar gael ar ddyfeisiau symudol a thabledi. Bydd dyluniad y safle yn newid i ffitio'r rhan fwyaf o ddimensiynau sgrin. Gellir gweld ein prif ddewislen ar ddyfais symudol trwy wasgu 3 llinell lorweddol yng nghornel dde uchaf unrhyw dudalen.
  • defnyddio dewisiadau testun amgen. Mae'r wefan hon a'n cyhoeddiadau yn defnyddio delweddau amrywiol i gyfleu gwybodaeth. Rydym wedi darparu dewisiadau testun amgen lle y bo'n bosibl i ganiatáu i unrhyw un sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol gael gafael ar y wybodaeth.
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd testun-i-leferydd - rydym wedi gosod webReader ReadSpeaker ar ein gwefan sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein i sain yn syth. Cliciwch ar yr eicon yng nghornel dde uchaf ein gwefan i roi cynnig ar hyn, a manteisio ar yr ystod lawn o nodweddion darllen gwefan [agorir mewn ffenestr newydd], gan gynnwys, cyfieithu, darllen-wrth-oedi a chwilio am air
  • pori, darllen a gwrando ar ddogfennau. Gall ReadSpeaker docReader ddarllen unrhyw un o'n hadroddiadau mewn mwy na 50 o ieithoedd. Mae'r bar offer yn eich galluogi i bori, darllen a gwrando ar eitemau. Mae hefyd yn cynnwys nodwedd edrych ar air ac uwch oleuo. Cliciwch ar yr eicon 'Gwrando' o dan ein dolenni i lawrlwytho cyhoeddiad

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hygyrch yn llwyr.

Mae rhestr llawn yn yr adran 'diffyg cydymffurfio' isod.

Mae llawer o'r materion hyn bellach yn cael eu datrys. Caiff y rhan fwyaf eu cywiro erbyn 27 Tachwedd 2020 a'n nod yw adolygu a gwella pob tudalen ar y wefan erbyn diwedd 2020.

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych angen gywbodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat wahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, neu mewn iaith wahanol:

E-bost: gwybodaeth@archwilio.cymru

Ffôn: 029 2032 0500

Nodwch:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, braille, BSL neu PDF hygyrch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 5 diwrnod.

Byddwn yn gwneud ein gorau i fynd i'r afael â'ch gofynion hygyrchedd yn unol â’n Polisi Addasiadau Rhesymol [PDF 152KB agorir mewn ffenestr newydd]

 

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: gwybodaeth@archwilio.cymru

 

Y weithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Mwy o wybodaeth am sut i gysylltu â ni.

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Archwilio Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2).

 

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan yma yn cydymffurfio’n rhannol gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon AA o ganlyniad i’r diffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau wedi’u rhestru isod.

 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Dim ar hyn o bryd.

 

Baich anghymesur

Dim ar hyn o bryd.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Porwyr heb gymorth

Efallai y na fydd rhannau o’n gwefan yn ymddangos fel y dylai ar fersiynau 6, 7 ac 8 o Internet Explorer. Nid yw Microsoft yn cefnogi’r fersiynau hyn mwyach. Rydym yn argymell eich bod yn uwchraddio i fersiwn diweddaraf neu drio porwr gwahanol os ydych yn profi unrhyw broblemau.

Cynnyrch a gwefannau trydydd parti

Efallai y bydd angen defnyddio meddalwedd trydydd parti ar rai rhannau o'n gwefan. Gall ein gwefan hefyd gynnwys hyperddolenni i wefannau trydydd parti allanol er hwylustod i chi. Nid oes gennym reolaeth dros y cynnwys a gyhoeddir ar wefannau trydydd parti na'u cynnyrch. Cyfeiriwch at wefan y darparwr am wybodaeth cymorth.

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o ddogfennau ar ein gwefan ar gael mewn modd hygyrch gan gynnwys testun amgen a strwythur dogfennau coll.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Cyn bo hir, byddwn yn cynnal arolwg o PDFs ar ein gwefan ac yn disodli unrhyw rai sy'n hanfodol gyda thudalennau HTML. Bydd hyn wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2020.

Bydd unrhyw ddogfennau PDFs neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Cysylltwch â ni  os oes angen fersiwn hygyrch arnoch o ddogfen sydd ar ein gwefan.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

 

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym ar hyn o bryd yn ddiweddaru ein gwefan i fersiwn diweddarach o Drupal ar ôl i'r fersiwn blaenorol gyrraedd diwedd ei hoes. Mae hyn yn dilyn symudiad i'r fersiwn hwnnw o Drupal yn gynharach eleni; oherwydd bywyd cyfyngedig y fersiwn hwnnw nid ydym eto wedi datrys y materion hyn oherwydd, ar y pryd, roeddent yn faich anghymesur o ran cost ac adnoddau. Gwelwyd materion ychwanegol o ran adnoddau o ganlyniad i Covid-19


Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant digidol, gan gynnwys drwy fodloni meini prawf Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We lefel 2.1 AA (WCAG 2.0) [agorir mewn ffenestr newydd].

Ardystiwyd bod ein gwefan flaenorol yn cydymffurfio ag  WCAG 2.1 [agorir mewn ffenestr newydd] ar 2 Mawrth 2020.

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 14 Rhagfyr.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 28 Gorffennaf 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth.

Defnyddiwyd y dull hwn i ddewis  sampl o dudalennau i’w profi: ar ôl cynnal ein profion ein hunain gan ddefnyddio offeryn gwerthuso hygyrchedd gwe Google Wave, rydym wedi ymgorffori'r elfennau o adroddiad Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a gawsom yn ddiweddar.