Ymgynghoriad ar Raddfeydd Ffioedd 2025-26

Mae'r ymgynghoriad yn gwahodd barn a sylwadau ar gynigion Archwilio Cymru ar gyfer cyfraddau ffioedd ac agweddau eraill ar y drefn ffioedd statudol ar gyfer gwaith archwilio.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys gwybodaeth am newidiadau arfaethedig i'n cyfraddau ffioedd a’n graddfeydd ffioedd o fis Ebrill 2025.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Archwilio Cymru yn cyflwyno Cynllun Ffioedd 2025-26 i'w ystyried gan Bwyllgor Cyllid y Senedd yn gynnar yn 2025.

 

Sut i ymateb


Gallwch weld yr ymgynghoriad yma [yn agor mewn ffenestr newydd].

Ymatebwch erbyn 27 Medi 2024 os gwelwch yn dda

Gellir anfon ymatebion i’r cyfeiriad canlynol:

Ymgynghoriad Graddfeydd Ffioedd

Archwilio Cymru ,1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall

Caerdydd CF10 4BZ

Neu gellir ei gwblhau’n electronig a’u hanfon drwy e-bost i: post@archwilio.cymru