Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn paru data bob ddwy fflyneddar hyd a lled sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau. Ers iddi ddechrau ym 1996, mae ymarferion y Fenter wedi arwain at ganfod ac atal gwerth mwy na £49.4 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru a £2.37 biliwn ledled y DU.
Mae ein hadroddiad ar ganfyddiadau ymarfer 2020-21 y Fenter Twyll Genedlaethol ar gael i'w lawrlwytho yma
Gall cyfranogwyr gael rhagor o wybodaeth ar app gwe'r fenter, gan gynnwys:
Mae'r rhestr wirio hon sydd mewn dwy ran wedi'i chynllunio i helpu pob un o gyrff y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) sy'n cymryd rhan i hunanwerthuso eu hymwneud â'r NFI cyn ac yn ystod ymarferion yr NFI:
Rhestr Wirio Hunan Arfarnu'r Fenter Twyll Genedlaethol [Agorir mewn ffenestr newydd]
Disgwylir i'r data ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) 2024-25 gael ei gyflwyno gan gyfranogwyr ym mis Hydref 2024. Mae'r ddogfen ganlynol yn nodi'r rhaglen waith derfynol a'r manylebau data ar gyfer yr ymarfer:
Menter Twyll Genedlaethol 2024-25: Rhaglen Waith a Manylebau Data Terfynol [Agorir mewn ffenestr newydd]
Amserlen ar gyfer ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol 2024-25 [Agorir mewn ffenestr newydd]
Paratowyd Cod Ymarfer ar Baru Data Archwilydd Cyffredinol Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] i gynorthwyo pawb sy'n cymryd rhan mewn gwaith paru data.
Mae ein hysbysiad preifatrwydd [Agorir mewn ffenest newydd] yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu data personol ar gyfer ymarferion paru data ac yn egluro sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd
Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych am ddarganfod mwy cysylltwch â ni: menter.twyll@archwilio.cymru.