Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ond mae angen iddi wella Darllen mwy about Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ond mae angen iddi wella Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £124.5 miliwn yn ei Rhaglen Cefnogi Pobl (y Rhaglen) yn 2016-17, i gynorthwyo pobl sy'n agored i niwed mewn amrywiaeth o amgylchiadau i fyw mor annibynnol â phosibl. Er gwaethaf rhai gwelliannau, nid yw'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog o ran y gwaith o'i chynllunio a'i chyflawni wedi bod yn effeithiol bob amser, bu'r cynnydd yn araf mewn rhai meysydd allweddol a cheir anghysondebau o ran rheoli'r Rhaglen ar lefel leol a rhanbarthol. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gwendidau Llywodraethu wedi bygwth hygrededd prosiect tyrbin gwynt Sir Gaerfyrddin Darllen mwy about Gwendidau Llywodraethu wedi bygwth hygrededd prosiect tyrbin gwynt Sir Gaerfyrddin Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £810,000 i helpu i adeiladu tyrbin gwynt CELT2 yn Sir Gaerfyrddin. Er bod y tyrbin yn gweithio’n llwyddiannus, mae nifer o wendidau llywodraethu wedi’u nodi, gan gynnwys rhai yn ymwneud â’r broses o reoli gwrthdaro buddiannau. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dull Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o ddyfarnu contractau ymgynghori "yn llawer is na'r safonau disgwyliedig" Darllen mwy about Dull Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o ddyfarnu contractau ymgynghori "yn llawer is na'r safonau disgwyliedig" Mae'r modd yr aeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ati i gaffael a rheoli contractau ymgynghori AD yn llawer is na'r safon y mae gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl gan gorff cyhoeddus. Dyna yw neges adroddiad, a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd heddiw.
Ymunwch â ni fel Cynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg! Darllen mwy about Ymunwch â ni fel Cynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg! Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg rhan amser i ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff Swyddfa Archwilio Cymru. Fe fyddwch yn cefnogi Pennaeth y Gyfraith a Moeseg wrth geisio cyngor cyfreithiol ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys enghreifftiau fel deddfwriaeth newydd yn ymwneud a chyrff cyhoeddus Cymru.
Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddf cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) i sicrhau cynllunio gwell o ran gwasanaethau a chyllid Darllen mwy about Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddf cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) i sicrhau cynllunio gwell o ran gwasanaethau a chyllid Ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ddod i rym yn 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gwariant arfaethedig ar iechyd, ond wedi parhau i ddibynnu ar gyllid ychwanegol i fynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau o fewn blwyddyn.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud i’r cyfeiriad cywir Darllen mwy about Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud i’r cyfeiriad cywir Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i barhau i roi “arweiniad egnïol, dewr ac amlwg” i adeiladu ar y cynnydd y mae eisoes wedi’i wneud o ran gwella gwasanaethau.
Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol – helpu gwneud i arian cyhoeddus gyfrif Darllen mwy about Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol – helpu gwneud i arian cyhoeddus gyfrif Rydym wedi llwyddo i gyflawni y rhaglen gyfan o waith a draethwyd yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016-17. Ymhlith ein cylch gwaith eang gwnaethom roi barn ar gyfrifon oddeutu 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyhoeddi 15 o adroddiadau cenedlaethol.
Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Darllen mwy about Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu i helpu creu cynnwys sy’n denu diddordeb, megis blogiau, datganiadau i’r wasg, Testun i’r we, meicrowefannau a chylchlythyron gan deilwra’r iaith yn effeithiol yn ôl y gynulleidfa targed a sianel. Mae’r swydd fel arfer yn denu pwll cyfoethog ag amrywiol er mwyn cynghori a chynorthwyo gydag ymholiadau gan y cyhoedd, newyddiadurwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig Darllen mwy about Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig Mae’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi gwella eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig ac, erbyn hyn, mae ganddynt ddull effeithiol o ragamcanu yr arbedion y mae angen iddynt eu cyflawni. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu’r adroddiad hefyd fod gan gynghorau fwy i’w wneud i gynllunio'r modd y maent yn bwriadu pontio’r bwlch cyllid sydd wedi’i nodi ganddynt, sydd yn tanseilio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig.
Ydych chi’n archwilydd â chymhwyster CCAB? Ymunwch â ni! Darllen mwy about Ydych chi’n archwilydd â chymhwyster CCAB? Ymunwch â ni! Mae Practis Archwilio Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru yn dymuno recriwtio tri archwilydd sy'n meddu ar gymhwyster CCAB. Os yn llwyddiannus, prif gyfrifoldebau'r swydd yw: