Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud cynnydd da wrth gryfhau trefniadau a gwella gwasanaethau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwella ei hunanymwybyddiaeth, yn gwneud cynnydd da wrth gryfhau ei drefniadau llywodraethu a rheoli, yn ogystal â gwella gwasanaethau; ond mae llawer mwy i'w wneud er mwyn defnyddio staff ac adnoddau eraill yn fwy strategol. Dyma gasgliad cyffredinol asesiad corfforaethol ac adroddiad gwella blynyddol a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.

Cyflawni â llai - Gwasanaethau Hamdden

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cynghorau ledled Cymru wedi cyflwyno gostyngiadau o bron i £18 miliwn i’w gwariant ar wasanaethau hamdden. Serch hynny, yn ôl ein hadroddiad ar Wasanaethau Hamdden a gyhoeddir heddiw, ceir cyfleoedd i sicrhau mwy o arbedion, ac mae angen mynd ar drywydd y cyfleoedd hynny.

Mae angen i’r sector cyhoeddus yng Nghymru newid ei ffocws i gynnal annibyniaeth pobl hŷn

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae arweinyddiaeth a strategaethau Cynghorau yng Nghymru yn methu cydnabod bob amser y rôl bwysig sydd gan wasanaethau y tu allan i’r sector iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol o ran cefnogi a chynnal annibyniaeth pobl hŷn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich cymuned?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ein cymunedau’n bwysig i ni ac mae’r ffordd y cânt eu cadw’n ddiogel yn effeithio arnom i gyd. Heddiw, rydyn ni wedi lansio arolwg ar ddiogelwch cymunedol fydd yn edrych ar sut y mae unigolion yn teimlo ynglŷn â’r mannau lle maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden.

Cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn dangos gwelliant o ran cyflwyno'u cyfrifon yn brydlon

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae prydlondeb cyflwyno cyfrifon diwedd y flwyddyn gan gynghorau tref a chymuned yng Nghymru wedi gwella ers 2011-12. Fodd bynnag, mae gan y sector yn gyffredinol le i wella o ran rheolaeth ariannol a llywodraethu, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.