Gwneud cau cyfrifon yn gynnar yn realiti Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd yn ofynnol i lywodraeth leol, parciau cenedlaethol a chyrff tân a heddlu yng Nghymru gau eu cyfrifon yn gynharach. Y llynedd, gwnaethom gynnal y gyntaf yn y gyfres hon o seminarau'n edrych ar gau cyfrifon yn gynnar a'r hyn y mae'n ei olygu i sefydliadau. Fel rhan o'r seminar honno, cafodd unigolion ddealltwriaeth o'r newidiadau diwylliannol a gweithdrefnol a gyflawnwyd gan eraill i'w galluogi i ddechrau ar y daith o newid y ffordd y maent yn gweithio.