Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cymerwyd camau i wella cymorth ac ymateb i bryderon ynghylch tâl athrawon cyflenwi, ond mae COVID-19 a newidiadau i’r cwricwlwm yn cyflwyno heriau newydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwella gallu athrawon cyflenwi i gael gafael ar adnoddau hyfforddi, wedi ymateb i bryderon ynglŷn â chontract yr asiantaeth genedlaethol – gan gynnwys isafswm cyfradd cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi – ac wedi ceisio lleihau’r amser y mae athrawon yn ei dreulio y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae effaith gyffredinol y camau gweithredu hyn yn aneglur ac mae’r system addysg o dan bwysau ychwanegol ar hyn o bryd.
Yn flaenorol, gwelsom fod oddeutu 10% o ddosbarthiadau wedi eu cyflenwi gan rywun nad oedd yn athro dosbarth, oherwydd salwch a datblygiad proffesiynol yn amlach na pheidio. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio lleihau biwrocratiaeth a llwyth gwaith athrawon, sy’n ffactorau a all gyfrannu at absenoldeb yn gysylltiedig â straen, a rheoli effaith gweithgareddau datblygiad proffesiynol ar amser addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Erbyn hyn, ceir amrywiaeth o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru sy’n berthnasol i gyflenwi absenoldeb athrawon, er bod tystiolaeth nad adlewyrchir hyn bob amser yn yr ystafell ddosbarth.
Mae athrawon cyflenwi a staff cyflenwi eraill yn gallu cael gafael ar hyfforddiant ac adnoddau ar-lein ar gyfer eu datblygiad proffesiynol eu hunain bellach ac mae contract staffio cyfredol yr asiantaeth genedlaethol yn cwmpasu darpariaeth hyfforddiant sylfaenol yn well mewn meysydd megis diogelu. Fodd bynnag, mae cost bosibl hyfforddiant a/neu’r cyfle a gollwyd i weithio a sicrhau incwm yn parhau i fod yn bryder i lawer.
Ers mis Medi 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys isafswm cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi yn ei chontract staffio asiantaeth genedlaethol. Mae’r isafswm cyflog hwn yn cyfateb i waelod prif raddfa’r athrawon (ychydig yn llai na £139 y diwrnod ar hyn o bryd). Croesawyd hyn gan y gymuned staff cyflenwi er ei fod yn debygol o gynyddu’r pwysau ar gyllidebau ysgolion a gallai ysgogi ysgolion i ystyried trefniadau y tu allan i’r contract cenedlaethol neu i beidio â dibynnu ar athrawon cymwysedig. Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer cynllun treialu a welodd athrawon newydd gymhwyso yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth cyflenwi ar draws 19 o glystyrau ysgolion, er bod costau’n broblem pan ddaeth y cyllid i ben.
Mae bylchau mewn data yn ei gwneud yn anodd dweud a yw’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael yr effeithiau a fwriedir. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyfanswm y gwariant ar drefniadau cyflenwi, sut y darperir staff cyflenwi neu eu heffaith ar ddysgwyr. Mae rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch y nifer sy’n manteisio ar yr adnoddau hyfforddi sydd ar gael bellach. Gallai Arolwg o’r Gweithlu Addysg yn y dyfodol ddarparu rhywfaint o dystiolaeth berthnasol. Adroddodd yr arolwg diwethaf yn 2017 ac mae cynlluniau ar gyfer arolwg arall yn gynharach yn 2020 wedi eu gohirio.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y bydd angen llawer o staff cyflenwi ar ysgolion er mwyn rhyddhau staff i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’n amcangyfrif y bydd hyn yn arwain at gost o ychydig yn llai nag £11 miliwn yn 2020-21. Nid ydym yn glir a oes digon o athrawon cyflenwi gweithredol ar gael i wneud hyn, yn enwedig gan ei bod yn debygol y bydd galw am staff ar gyfer y fenter ‘Recriwtio, Adfer a Chodi safonau’, a chyfradd uwch na’r cyfartaledd o absenoldeb oherwydd salwch neu staff sy’n hunanynysu oherwydd pandemig COVID-19. Gallai bodloni’r galw ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a phynciau lle ceir prinder megis mathemateg a ffiseg fod yn arbennig o anodd.
Mae ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:
Mae gweithwyr sy’n darparu gwasanaeth cyflenwi dros dro mewn ystafelloedd dosbarth yn ein hysgolion yn rhan hanfodol o’n system addysg. Ond effeithir ar gynnydd dysgwyr a chyllidebau ysgolion os na reolir absenoldeb athrawon o’r ystafell ddosbarth yn dda. Bu llawer o ddatblygiadau pwysig ers ein hadroddiad yn 2013, ond gallai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i ddangos effaith y camau y mae wedi eu cymryd. Mae angen iddi ystyried hefyd a oes digon o weithwyr dros dro ar gael i helpu i reoli’r ymateb i COVID-19 ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn enwedig yn y meysydd hynny y gwyddom eisoes fod prinder ynddynt.
Nodiadau i’r golygyddion: