Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ymunwch â'r digwyddiad undydd sy'n edrych ar gyllid sy'n addas i'r dyfodol

21 Tachwedd 2025
  • Mae'r gynhadledd Dyfodol Diamod yn dychwelyd ar gyfer ei 8fed blwyddyn

    Digwyddiad poblogaidd, trefnir y gynhadledd gan y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid (FSDG). Ymhlith y sefydliadau dan sylw mae Archwilio Cymru, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir, llywodraeth leol, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach – ynghyd â sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, megis DVLA a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Ar gyfer pwy mae'r Gynhadledd?

    Cynllunnir y gynhadledd ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ledled Cymru ac sy'n astudio tuag at gymhwyster sy'n ymwneud â chyllid. Nod y gynhadledd yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth hyfforddeion cyllid o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu sector cyhoeddus Cymru, yn ogystal ag ategu datblygiad personol hyfforddeion fel arweinwyr cyllid y dyfodol.

    Pam ddylwn fynd iddi?

    Mae'r gynhadledd yn gyfle unigryw i glywed prif areithiau a mynd i sesiynau gweithdy sy'n ysgogi meddwl a gofyn eich cwestiynau a derbyn eich atebion yno’n syth bin. Bydd hefyd cyfle i ganfod am y materion sy'n effeithio ar eich sector a sut y gallent effeithio ar eich swydd.

    Pwy fydd yno?

    Mae'r rhestr o’r cyrfanogwyr ar gyfer eleni eisoes yn debyg o fod yn un o'r rhai mwyaf diddorol. Bydd Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru, Dean Medcraft, yn cadeirio'r diwrnod gyda phrif siaradwyr yn cynnwys Archwilydd Cyffredinol Cymru, Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac Alan Vallance, Prif Weithredwr Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.

    Yn darparu'r gweithdai fydd:

    • Chris Bolton, Archwilio Cymru ar bam mae ymddiriedaeth mor bwysig i gyrff sector cyhoeddus
    • Catryn Holzinger, Rheolwr Prosiect Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Archwilio Cymru ar atal a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
    • Sally Cox, Rheolwr Dadansoddi Data, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Sarah Puntoni, Uwch Arweinydd Rhaglen, Trawsnewid Gwerth P&I y GIG ar fewnwelediadau i ddata meincnodi rhyngwladol a sut y gall helpu GIG Cymru i lywio darparu gwasanaethau.
    • Derwyn Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Moderneiddio Archwilio ac Effaith, a Peter Thomas, Pennaeth Sgiliau a Gallu, Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar ddatgyfrinio DA a chanfod ffyrdd ymarferol o gydbwyso arloesedd ag uniondeb.
    • David Evans, Partneriaeth HTFT ar baratoi ar gyfer arholiadau.
    • Panel cyn-fyfyrwyr ar eu prif awgrymiadau ar gyfer eich taith gyfrifyddu.
    • Gweithdy ar pam mae adeiladu eich brand personol a rhwydweithio yn bwysig.
    • Gweithdy ar gadernid a sut y gallwch ddod â hynny i'ch swydd.

    A mwy i'w gyhoeddi!

    Os ydych chi'n astudio ar gyfer cymhwyster cyllid ac yn meddwl y byddech chi'n elwa o fynd i'r gynhadledd, anfonwch e-bost at digwyddiadau@archwilio.cymru