Ydych chi'n chwilio am her newydd? Ymunwch â ni yn Archwilio Cymru.

Rydym yn edrych i benodi Uwch Archwilwyr ac Archwilwyr Arweiniol Ariannol i ymuno â'n tîm.
Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd gyrfa cyffrous yma yn Archwilio Cymru, gyda swyddi wedi eu lleoli yn ein tîm y Gogledd
Uwch Archwilwyr
Rydym yn edrych i recriwtio Uwch Archwilwyr parhaol a thymor sefydlog i ymuno â ni. Byddwch yn gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad naill ai mewn archwilio neu o fewn lleoliad cyfrifyddu. Mae profiad y sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
Archwilwyr Arweiniol Ariannol
Rydym hefyd yn edrych i recriwtio Archwilwyr Arweiniol Ariannol parhaol. Yn bennaf byddwch yn arwain timau wrth ddarparu gwaith archwilio ariannol mewn nifer o gyrff sector cyhoeddus.
Rydym yn edrych am gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad o oruchwylio a hyfforddi staff.
Ar gyfer y ddwy swydd mae angen rhywun arnom sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector gyhoeddus drwy feddu ar ddyfarniad gadarn a sgiliau dadansoddol a chyfathrebu rhagorol.
Pam ymuno ag Archwilio Cymru?
Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.
Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).
Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.
Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Am ragor o fanylion