Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion Archwilio Cymru ar agor am geisiadau

Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion Archwilio Cymru ar agor am geisiadau
30 Tachwedd 2022
lightbulb

Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglen hyfforddi i raddedigion bellach ar agor.

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer ein rhaglen hyfforddi i raddedigion ar agor.

Ydych chi wedi ymrwymo i wella gwasanaethau'r sector cyhoeddus? Ydych chi'n ystyried eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Yna, efallai mai ein rhaglen ni yw'r un i chi!

Yn Archwilio Cymru, rydym yn cynnig cyfle i raddedigion o'r radd flaenaf sydd wedi'i ariannu'n llawn i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig. Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifeg tra’n teithio o amgylch Cymru yn ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.

Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru, ac fel un o raddedigion Archwilio Cymru, byddwch yn chwarae rhan fawr ynddo ac yn archwiliad dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!

Pwy yw Archwilio Cymru?

Ni yw'r corff sy'n archwilio'r sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru; ein swyddogaeth unigryw yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac i ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae rhai o'n gwaith cenedlaethol blaenorol wedi edrych ar dlodi tanwydd, COVID-19, digartrefedd a newid yn yr hinsawdd.

Pam Archwilio Cymru?

Rydym yn cymryd dysgu a datblygu ein hyfforddeion o ddifrif, a byddwch yn cael cefnogaeth lawn tra byddwch yn cydbwyso eich astudiaethau â'ch swydd bob dydd fel hyfforddai.

Ac, mae gennym restr drawiadol o fanteision hefyd:

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus)
  • Pecyn cyflog hael
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Disgowntiau siopa
  • Tanysgrifiadau proffesiynol
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn

Canfuwch fwy am ein rhaglen gyffrous ar ein gwefan.

Dyddiad cau:  29 Ionawr 2023