Mae ceisiadau ar gyfer ein Rhaglen Brentisiaethau Cyllid ar agor

Mae ceisiadau ar gyfer ein Rhaglen Brentisiaethau Cyllid ar agor
newspaper, apprentice icon, microphone

Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill a dysgu drwy gyfrwng prentisiaeth lefel uwch?

Yna darllenwch ymlaen i ganfod mwy am ein Rhaglen Brentisiaethau Cyllid!

Beth sy’n gynwysiedig?

Mae ein rhaglen yn gyfnod sefydlog tair blynedd ac mae wedi'i anelu at y rhai sydd am ddilyn gyrfa ym maes cyllid.  Byddwch yn chwarae rhan yn yr archwiliad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ar draws Cymru wrth gwblhau hyfforddiant proffesiynol gyda'r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 i lefel 4.

Mae'r rhaglen gyffrous hon hefyd yn cael ei ategu gyda hyfforddiant proffesiynol ychwanegol a bydd gennych fentor a chyfeilydd hefyd i roi ganllaw i chi ar hyd y ffordd.

Eisiau gwybod mwy am gyfansoddiad y sector cyhoeddus? Wel, byddwch hefyd yn astudio ar gyfer modiwl cyllid penodol ar y sector cyhoeddus.

Yn Archwilio Cymru, rydym wir o blaid dyfodol ein prentisiaid a byddwn yn eich hyfforddi a'ch ategu drwy ein rhaglen brentisiaethau sy'n darparu llwybr posibl i'n cynllun i raddedigion.

Ydych chi'n chwilio am ffordd o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru? Yna, efallai bydd y rhaglen hon i chi!

Eisiau gwybod mwy am fod yn brentis yn Archwilio Cymru?

Mae ein prentisiaid wedi ennill gwobrau, darllenwch am ddyfarniad Prentis y Flwyddyn i Eleri Davies [yn agor mewn ffenest newydd] neu sut waeth criw o'n prentisiaid yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru [yn agor mewn ffenest newydd].

Edrychwch ar adran newyddion a blogiau ein gwefan [yn agor mewn ffenestr newydd] lle dewch o hyd i straeon gan brentisiaid cyfredol a’r gorffennol.

Pam Archwilio Cymru?

Rydym yn cymryd dysgu a datblygu ein hyfforddeion o ddifrif, ac fe gewch eich ategu’n lawn tra byddwch yn cydbwyso eich astudiaethau â'ch swydd weithgar fel hyfforddai.

Rydym yn cynnig pecyn hael o fanteision:

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus)
  • Pecyn cyflog hael
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Disgowntiau siopa
  • Tanysgrifiadau proffesiynol
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 12 Ebrill 2023 ac rydym yn cynllunio i’r asesiadau ddigwydd yn yr wythnos sy’n dechrau ar Ebrill 24 2023. Ceir rhagor o wybodaeth ar sut i wneud cais a sut i fod yn gymwys ein gwefan [yn agor mewn ffenest newydd].