Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi barn amodol ar gyfrifon Llywodraeth Cymru 2024-25

16 Rhagfyr 2025
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei farn

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei farn a'i adroddiad ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.

    Mae wedi rhoi amod ar ei farn wir a theg ar ased benthyciadau i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru oherwydd na all benderfynu a yw'r amcangyfrif gwerth teg ar 31 Mawrth 2025 yn rhesymol.

    Asedau net Grŵp Llywodraeth Cymru a adroddwyd ar 31 Mawrth 2025 oedd £37.7 biliwn. Wedi'i gynnwys yn y balans hwn mae ased benthyciadau i fyfyrwyr o £8.9 biliwn, h.y. gwerth y benthyciadau i fyfyrwyr yr amcangyfrifir eu bod i’w had-dalu.

    Mae cyfrifo'r ffigur hwn yn cynnwys modelu cymhleth. Mae Llywodraeth Cymru wedi addasu ffeiliau modelu a ddarparwyd rai blynyddoedd yn ôl gan yr Adran Addysg (DfE).

    Nododd yr Archwilydd Cyffredinol bryderon ynghylch digonolrwydd y model hwn sydd bellach yn heneiddio wrth gynhyrchu amcangyfrif rhesymol. Y bwriad oedd i Lywodraeth Cymru sy'n gweithio gyda'r Adran Addysg o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth y 4 Gwlad drosglwyddo i fodel mwy diweddar yn 2024-25, ond daeth Llywodraeth Cymru i'r casgliad na ellid ei brofi a sicrhau’r ansawdd yn ei gylch mewn pryd i gynnwys allbynnau yn natganiadau ariannol 2024-25. Felly, defnyddiodd Llywodraeth Cymru yr unig fodel a oedd ar gael ar y pryd i gynhyrchu'r datganiadau ariannol drafft.

    Amlygodd ei adroddiad yn 2021 ar Gyllid Myfyrwyr i Lywodraeth Cymru amcangyfrif yn 2015-16 y byddai'n adennill 81c am bob £1 sy'n ddyledus drwy fenthyciadau i fyfyrwyr. Erbyn 2019-20 roedd yr amcangyfrif hwnnw wedi gostwng i 65c. Ar hyn o bryd mae ad-daliadau gwirioneddol tua 50% o'r rhai a ragwelir ar hyn o bryd o dan y model presennol. Felly, mae'n debygol y bydd y model newydd yn arwain at werth asedau benthyciadau i fyfyrwyr sylweddol is yn 2025-26 a allai fod â goblygiadau i bolisi o ran cyllid i fyfyrwyr yn y dyfodol.

    Hyd yn hyn mae Trysorlys EF wedi ariannu'r cynlluniau o ran benthyciadau i fyfyrwyr yn llawn ar y sail bod costau'n debyg ar draws y pedair cenedl.

    Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mabwysiadu'r model newydd yn 2025-26.