Mae Archwilio Cymru yn symud

Ddiwedd y mis hwn byddwn yn gadael ein swyddfeydd yng Nghaerdydd ar Heol y Gadeirlan i gartref newydd yng Nghwr y Ddinas.
Bydd ein safleoedd newydd yn rhoi man gwaith inni sy’n fwy modern, cost-effeithiol a chyfeillgar i'r amgylchedd – gan adlewyrchu ein bod yn mynd ati o ran gweithio hybrid, gan leihau ein costau a'n hôl troed carbon.
Ein cyfeiriad newydd yw:
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Mae ein ffyrdd o weithio wedi’u trawsnewid wrth fynd ati i weithio’n hybrid a chydnabod yr angen i leihau ôl troed carbon a bod mor effeithlon â phosibl yn y ffordd rydym yn cynnal ein busnes.
Er bod Heol y Gadeirlan wedi ein gwasanaethu'n dda dros y blynyddoedd, bydd symud i Gwr y Ddinas yn rhoi gofod gwaith mwy modern a hygyrch i ni yng nghanol Caerdydd a fydd yn gweddu'n well i'n hanghenion.