Cystadleuaeth Technegydd Cyfrifeg WorldSkills

Mae tri phrentis Archwilio Cymru yn cymryd rhan!
Rydym yn falch i gyhoeddi y bydd tri o'n prentisiaid cyllid yn un o ddim ond chwe thîm ledled y DU a fydd yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Technegydd Cyfrifeg WorldSkills ar 16-18 Tachwedd 2022.
Bydd Eleri Davies, Catrin Round a Daron Jones yn cynrychioli Archwilio Cymru ac maent eisoes wedi bod drwy broses anodd i gymhwyso ar ei gyfer sy'n cynnwys profion unigol a grwpiau.
Mae pob un ohonom yn Archwilio Cymru yn dymunwn bob hwyl i Eleri, Catrin a Daron ac edrychwn ymlaen at glywed sut y maent yn mynd ymlaen.
Canfuwch fwy am y gystadleuaeth ar wefan Busnes@LlandrilloMenai [yn agor mewn ffenest newydd].