Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyrchu mewnol Llywodraeth Cymru o wasanaethau TGCh wedi ei reoli’n dda ond nid yw’r buddion llawn wedi eu gwireddu eto

11 Mawrth 2021
  • Roedd y prosiect cyrchu mewnol yn cynrychioli newid arwyddocaol ar ôl blynyddoedd lawer o ddarparu TGCh drwy gontract allanol ac mae'n cyd-fynd yn dda â rhaglen foderneiddio TGCh ehangach y llywodraeth.

    Sicrhawyd arbedion a rheolwyd risgiau i sicrhau cyflawni ar amser, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi arbed cymaint â'r disgwyl ac mae lle i wella'r broses o olrhain costau a buddion.

    Yn 2017, penderfynodd Llywodraeth Cymru symud oddi wrth fodel TGCh ar gontract allanol i fodel cyrchu mewnol i raddau helaeth, gan ddechrau ym mis Ionawr 2019. Roedd yr achos busnes i gyrchu TGCh yn fewnol yn gynhwysfawr ac yn nodi amcanion clir, gyda chymysgedd o fuddion ariannol a rhai heb fod yn ariannol.

    Er mwyn helpu i gyflawni'r newid hwn, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru anghenion ei staff, dysgu gan sefydliadau eraill a siarad â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i gael cyngor.

    Roedd arbedion yn rhan sylfaenol o'r achos busnes i ddod  â gwasanaethau TGCh yn fewnol. Arbedwyd oddeutu £4.9 miliwn yn 2019-20, ond nid yr £8.1 miliwn llawn a ragwelwyd. Roedd y diffyg hwn yn bennaf oherwydd costau meddalwedd cynyddol a chostau ychwanegol i gontractwyr o ganlyniad i swyddi heb eu llenwi.

    Yn ogystal ag arbedion, bu cyflwyno 6,000 o liniaduron newydd erbyn diwedd 2019 yn hollbwysig i helpu staff i weithio gartref yn ystod pandemig COVID-19. Cyfrannodd hyn at ostyngiad o £23,000 mewn costau teithio yn 2019-20, a disgwylir gostyngiadau llawer mwy yn 2020-21. Roedd buddion eraill nad oeddynt yn rhai ariannol yn cynnwys lleihau allyriadau carbon drwy lai o argraffu a chau canolfan ddata.

    Mae nifer y digwyddiadau TGCh difrifol wedi gostwng yn raddol ers trosglwyddo i wasanaeth mewnol, ac mae boddhad defnyddwyr â gwasanaethau TGCh wedi gwella. Fodd bynnag, bu gostyngiad ym mherfformiad desg gwasanaeth TGCh, sydd yn fwyaf tebygol oherwydd diffyg staff.

    Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar wella'r broses o olrhain buddion a chostau, diweddaru'r dangosyddion perfformiad ar gyfer gwasanaethau TGCh, ac ailedrych ar lefelau staffio er mwyn sicrhau bod buddion llawn y newid hwn yn cael eu gwireddu.

    ,
    Mae'n dda gallu adrodd mewn modd cadarnhaol am raglen newid TGCh sydd wedi gwasanaethu Llywodraeth Cymru yn dda gan ei bod wedi wynebu'r her o ffordd wahanol o weithio mewn ymateb i bandemig COVID-19. Fodd bynnag, nid yw'r gwaith wedi'i gwblhau ac mae angen cymryd camau pellach i sicrhau'r holl fuddion a fwriedid, i fynd i'r afael â'r pwysau a achoswyd gan ddiffyg staff, ac i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gyrchu gwasanaeth TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol ar ôl blynyddoedd o ddarparu drwy gontract allanol.
    • Roedd cyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau TGCh yn £13.9 miliwn yn 2019-20 ac roedd y gyllideb ar gyfer y prosiect cyrchu mewnol yn £12.7 miliwn dros ddwy flynedd. Cynlluniwyd £8.1 miliwn o arbedion yn 2019-20, ond £4.9 miliwn o arbedion yn unig a gyflawnwyd.
    • Rhestrir ffeithiau allweddol, amserlen a'n hargymhellion ar dudalennau 7-11.
    • Mae costau disgwyliedig TGCh a’r gwir gostau ar dudalen 33.
    • Rhestrir crynodeb o'r cynnydd o ran cyflawni buddion nad ydynt yn rhai ariannol ar dudalennau 36-37.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r mwyafrif o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £20 biliwn o gyllid y pleidleisir arno yn flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o'r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth.
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol â naw aelod sy'n cyflogi staff ac sy'n darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, ac ef hefyd yn Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu y Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol ynghylch y modd yr arferir ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ambarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyflenwi Gwasanaeth TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol

    View more