Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae cyfyngiadau ar gapasiti staff, bylchau mewn data allweddol, a systemau digidol tameidiog yn ei ddal yn ôl
Mae ein hadroddiad yn ystyried a oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddull effeithiol o ddynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wrth iddo weithio i ddiogelu natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu cydnabod am eu nodweddion bywyd gwyllt a naturiol pwysig. Fe’u gwarchodir o dan adran 28 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Dywed CNC fod 1,083 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd. CNC sy’n gyfrifol am ddynodi safleoedd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac am y rheolaeth reoleiddiol arnynt.
Mae Cynllun Corfforaethol CNC yn ymrwymo i ehangu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a’u cysylltu’n well i ategu’r targed ‘30 erbyn 30’ rhyngwladol, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo. Mae'r targed yn amcanu at ddiogelu a rheoli o leiaf 30% o dir, dŵr croyw a môr yn effeithiol er budd natur erbyn 2030. Mae 12% o arwynebedd Cymru wedi’i ddiogelu, sydd ymhell o’r targed i ddiogelu 30%. Er y gallai mesurau diogelu eraill fod â rôl, mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn fodd pwysig i gyrraedd y targed hwnnw.
Canfuom nad yw CNC wedi bod yn dynodi llawer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, er ei fod yn gwybod am lawer o leoedd a allai fod yn gymwys i gael eu diogelu trwy eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ers ei sefydlu yn 2013, dim ond 31 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y mae CNC wedi’u dynodi.
Cyfyngedig fu’r cynnydd gan CNC i ddatblygu ei ddull strategol o ymdrin â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae cyfyngiadau ar gapasiti staff, bylchau mewn data allweddol, a systemau digidol tameidiog wedi cyfyngu ar y cynnydd. Mae systemau digidol CNC wedi dyddio ac nid ydynt o gymorth i rannu data’n effeithiol. Ceir bylchau mawr hefyd yn sylfaen wybodaeth CNC, yn enwedig lle mae cyflwr nodweddion ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y cwestiwn.
Mae ein hadroddiad yn egluro bod CNC fel sefydliad dan bwysau ac yn wynebu ansicrwydd parhaus. Dechreuodd 2024-25 â diffyg o oddeutu £9 miliwn yn ei gyllideb staff, yr oedd yn rhagweld y byddai’n tyfu i £17 miliwn erbyn 2026-27 pe na bai’n gweithredu i leihau costau. I arbed costau, cafodd CNC wared ar 8% o swyddi staff o’i gyfanswm swyddi staff ar y cyfan ym mis Ebrill 2025 fel rhan o’i broses ailstrwythuro ‘achos dros newid’.
Cynyddodd cyllideb CNC tuag at ddiwedd 2024-25, gyda pheth cyllid ar gyfer gweithgarwch Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Fodd bynnag, nid yw CNC wedi nodi’n glir eto sut y bydd yn gwireddu ei uchelgais ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig na’r adnoddau a fydd yn ofynnol.
Mae angen i CNC weithredu i daro cydbwysedd rhwng pwysau byrdymor a deilliannau tymor hwy y mae’n amcanu at eu cyflawni ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Bydd angen iddo wneud hyn gan ystyried ei flaenoriaethau ehangach o ran bioamrywiaeth a sut y gall gynyddu ei effaith i’r eithaf. Rydym wedi gwneud wyth argymhelliad ynghylch camau y dylai CNC eu cymryd i wella ei ddull o ymdrin â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n seiliedig ar y themâu canlynol:
Mae swyddogaethau CNC yn rhan hanfodol o ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd a natur. Rwy’n cydnabod y pwysau ariannol a fu ar CNC a’r gwahanol flaenoriaethau y mae’n rhaid iddo daro cydbwysedd rhyngddynt, ond mae dynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn un o’r prif offer sydd ar gael iddo i ddiogelu natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Er mwyn i CNC gyflawni ei ymrwymiad i ehangu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a’u cysylltu’n well, mae angen ailosod ei ddull yn sylfaenol i hybu mwy o weithgarwch yn y blynyddoedd sydd i ddod