Bydd ein rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru

Gyda chyllid cyhoeddus dan straen sylweddol, mae gwerth ein gwaith yn bwysicach nag erioed
Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2023-24 sy'n amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.
Mae gwerth archwiliad cyhoeddus mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, gwleidyddion, y rhai sy'n, gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr ynghylch a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach mewn cyfnodau pan mae'r pŵer gwariant cyhoeddus wedi'i erydu ac mae cyllid o dan y fath straen. Bydd ein rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru.
Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth pum mlynedd, sy'n darparu'r cyd-destun ar gyfer y Cynllun Blynyddol hwn ac yn nodi ein rhaglen waith yn ystod yr ail flwyddyn o gyflwyno ein strategaeth, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol:
- Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig ac o ansawdd uchel;
- datblygu dull wedi'i dargedu ac effeithiol o ran cyfathrebu a dylanwadu
- model diwylliant a gweithredu sy'n ein galluogi i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein Cynllun Blynyddol, yn ogystal â gosod ein rhaglen waith ar gyfer 2023-24, hefyd yn tynnu sylw at sawl maes blaenoriaeth a fydd yn cefnogi ein gwaith archwilio a rhedeg y busnes, sut rydym yn bwriadu eu cyflawni a'r hyn y byddwn yn ei wneud i wella ein dull o fonitro perfformiad.
Gyda chyllid cyhoeddus dan straen o'r fath, mae ein gwaith craidd yn archwilio datganiadau ariannol cyrff cyhoeddus, gan ddarparu sicrwydd, tryloywder ac atebolrwydd i drethdalwyr, y Senedd a chynrychiolwyr etholedig eraill yn bwysicach nag erioed.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd ein hymgyrch i wella ansawdd ein gwaith yn ein gweld yn gwreiddio safonau rhyngwladol newydd ar gyfer archwilio ariannol a pherfformiad..." Byddwn hefyd yn gobeithio cynyddu effaith ein harchwiliadau gyda rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedair thema - mynd i'r afael ag anghydraddoldeb; ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur; gwytnwch gwasanaeth a mynediad; a gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rheoli'n dda.
Yn fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y bwrdd, rwy'n ymwybodol nad yw Archwilio Cymru'n imiwn i'r pwysau ariannol sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus. Rydym yn cynnal adolygiad cynaliadwyedd ariannol i sicrhau bod y busnes yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl. Bydd ein prosiect Ffyrdd o Weithio yn y Dyfodol yn ein gweld yn dechrau'r flwyddyn mewn mangre lai, fwy ynni-effeithlon, a hygyrch yng Nghaerdydd Byddwn yn parhau i asesu sut mae ein hasedau ledled Cymru yn ein galluogi i gyflawni ein gwaith archwilio gorau gan hefyd wneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgeisiau sero net.
Ni fydd yr un o'r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni dros y flwyddyn i ddod yn bosibl heb ein timau medrus a brwdfrydig iawn a bydd cefnogi eu lles yn parhau, felly, ein blaenoriaeth uchaf gan ei fod yn sail i'r cyfan a wnawn.
