Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad ar daliad i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad ar daliad i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru
image of report and magnifying glass

Wedi iddo roi barn amodol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ymwneud â thaliad i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru pan derfynwyd ei chyflogaeth ym mis Hydref 2021.

Roedd y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau ynglŷn â threfniadau gwaith y cyn-Ysgrifennydd Parhaol a phenderfynu gwneud taliad iddi pan derfynwyd ei chyflogaeth yn brin o dryloywder ac nid oedd yn cydymffurfio ag egwyddorion llywodraethu da.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y dylai'r ffeithiau ynglŷn â'r mater hwn gael eu tynnu at sylw'r cyhoedd a'r Senedd.

Taliad i Gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru pan Derfynwyd ei Chyflogaeth