Angen strategaeth gweithlu hirdymor i reoli pwysau staffio Llywodraeth Cymru a sicrhau gwydnwch

Angen strategaeth gweithlu hirdymor i reoli pwysau staffio Llywodraeth Cymru a sicrhau gwydnwch
08 Medi 2022
Gwraig yn eistedd wrth ddesg mewn cyfarfod

Mae mesurau tymor byr wedi helpu i reoli Brexit a phandemig COVID-19, ond mae prinder staff wedi oedi rhai prosiectau a rhaglenni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli ei heriau staffio yn absenoldeb cynllun gweithlu strategol ffurfiol.

Yn ystod cyfnod o bwysau ariannol, ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyfyngu ar ei chostau staffio. I wneud hyn, mae wedi cael rheolaethau tynn ar swyddi newydd a recriwtio allanol, yn enwedig ar gyfer staff parhaol. Roedd niferoedd staff cyfwerth ag amser llawn yn 2021-22 9% yn is nag yn 2009-10, er gwaethaf cynnydd cymharol fach ers 2017 i ymdopi â'r gofynion mwyaf brys yn sgil Brexit a phandemig COVID-19. Gostyngodd costau staff yn gyffredinol mewn termau real ar ôl 2010 ond maen nhw bellach wedi dychwelyd i'w lefel 2009-10. Mae costau cyflog real wedi gostwng 6.6% dros y cyfnod, ond fe gododd cyfanswm costau staff 0.3% oherwydd cyfraniadau pensiwn uwch ac Yswiriant Gwladol yn bennaf.

Yn ôl ein hadroddiad, mewn rhai achosion, mae pwysau'r gweithlu wedi ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru gyflawni rhai o'i huchelgeisiau polisi. Mae nifer o raglenni, prosiectau a pholisïau wedi cael eu gohirio oherwydd prinder staff. Er mwyn rheoli'r heriau gweithredol hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod defnyddio mesurau adweithiol tymor byr fel ailbennu staff i rolau blaenoriaeth, recriwtio dros dro, talu staff yn ychwanegol i ysgwyddo cyfrifoldebau mwy uwch, a secondiadau mewnol.

Mae'r cyfnod hir o recriwtio allanol cyfyngedig ynghyd â throsiant isel yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cael gweithlu sefydlog ond sydd wedi heneiddio. Er gwaethaf peth cynnydd, mae'r sefyllfa hon hefyd wedi ei gwneud hi'n anodd amrywio'r gweithlu fel ei bod yn gynrychioliadol o boblogaeth ehangach Cymru, neu ddod â thalent ffres, safbwyntiau newydd a sgiliau allweddol i mewn (hyd yn oed pan fyddai hynny'n arwain at arbedion ariannol).

Nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi cael cynllun gweithlu strategol ffurfiol. Er bod mentrau perthnasol wedi bod – er enghraifft i ddatblygu arweinyddiaeth a thalent – cafodd y cynnydd o ran datblygu dull mwy strategol ei ohirio gan bandemig COVID-19. Mae bylchau mewn data a systemau gwybodaeth dameidiog hefyd wedi gwneud y broses o gynllunio'r gweithlu yn anoddach, er bod gwelliannau i systemau gwybodaeth wedi'u cynllunio. Bwriad Llywodraeth Cymru yw datblygu strategaeth gweithlu yn ystod 2022-23 sydd wedi'i hintegreiddio gyda strategaethau eraill o amgylch gweithio gartref a'r defnydd o dechnoleg ddigidol.

Mae ein hadroddiad yn amlinellu argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch datblygu ei strategaeth gweithlu, gan gynnwys asesiad hirdymor o anghenion y gweithlu, cynlluniau i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau, a phroses gadarn ar gyfer blaenoriaethu llwyth gwaith o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Rydym hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch cryfhau data'r gweithlu a gwerthuso newidiadau diweddar i'r ffordd y caiff penderfyniadau'r gweithlu eu gwneud.

Fel llawer o gyrff cyhoeddus eraill, mae pandemig COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar weithlu Llywodraeth Cymru wrth i'w staff orfod addasu i ffyrdd newydd o weithio a newid blaenoriaethau'n gyflym. Fodd bynnag, mae'r angen am strategaeth gynhwysfawr i ddelio â heriau'r gweithlu hirdymor mewn ffordd gynaliadwy yn pwyso fwyfwy. Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu llwyth gwaith heriol i gyflawni ei rhaglen lywodraethu, tra'n delio ag effeithiau'r pandemig a chyfrifoldebau newydd yn sgil Brexit.

Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol