Angen mwy o frys i ymdrin â’r heriau a wynebir o ran rheoli perygl llifogydd

Penderfyniadau anodd i ddod ynglŷn â rheoli perygl llifogydd mewn cymunedau lleol
Newid hinsawdd, costau cysylltiedig llifogydd a chapasiti’r gweithlu yw rhai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector llifogydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi profi effeithiau dinistriol llifogydd ac, er gwaethaf buddsoddi parhaus, mae llifogydd yn dal i fod yn berygl mawr i’r wlad. Gyda thywydd eithafol fel hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy mynych, mae ein hadroddiad yn ystyried sut y mae rheoli perygl llifogydd yn gweithio yng Nghymru a materion allweddol i’r sector.
Mae newid hinsawdd yn cynyddu peryglon a chostau cysylltiedig llifogydd. Mae codiadau mewn lefelau môr a lefelau glawiad uwch yn cynyddu’r siawns y bydd llifogydd yn digwydd. Mae digwyddiadau mis Chwefror 2020 a stormydd Ciara a Dennis yn enghreifftiau llwm sy’n ein hatgoffa o effaith tywydd eithafol, gyda 3,130 o unedau eiddo yng Nghymru’n rhai y gwyddys eu bod wedi cael llifogydd.
Mae costau sylweddol yn gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd. Yn 2021-22, darparodd Llywodraeth Cymru £59.6 miliwn o gyllid i reoli perygl llifogydd. Bydd angen buddsoddiad hirdymor sylweddol i fynd i’r afael â’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd a llifogydd, tra bydd chwyddiant yn rhoi pwysau ar gyllidebau presennol. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i flaenoriaethu adnoddau y mae pen draw iddynt.
Y flaenoriaeth fwyaf uniongyrchol i’r sector llifogydd yw cynyddu capasiti’r gweithlu. Mae’r gweithlu cyfredol dan bwysau, a heb gapasiti ychwanegol yn y gweithlu a hynny yn y meysydd cywir bydd hi’n anodd ymdrin â’r heriau sy’n wynebu’r sector. Mae rheoli perygl llifogydd yn faes arbenigol, sy’n gofyn sgiliau eang y mae’n anodd dod o hyd iddynt.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi nifer o faterion allweddol eraill sy’n effeithio ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru:
- Mae bylchau o ran arweinyddiaeth ar y cyd ac integreiddio polisi.
- Mae bylchau mewn data ar berygl llifogydd ac mae’r peryglon eu hunain yn newid drwy’r amser gyda newid hinsawdd.
- Gallai datblygu adeiladau mewn ardaloedd sydd mewn perygl mawr fod yn gadael aelwydydd a busnesau’n agored i berygl llifogydd y gellir ei osgoi.
Rydym wedi gweld effaith ofnadwy llifogydd ar ein cymunedau a’r economi ac mae newid hinsawdd yn golygu bod hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy mynych. Nid yw’r materion yn newydd. Mae ein gwaith archwilio blaenorol ac adolygiadau eraill wedi amlygu’r angen i weithredu o ran cynllunio tymor hir, addasu i newid hinsawdd a meithrin capasiti’r gweithlu. Er gwaethaf rhai datblygiadau cadarnhaol, mae cwestiynau difrifol ynghylch gallu gwasanaethau cyhoeddus i aros gyfuwch â’r peryglon a’r heriau cynyddol sy’n gysylltiedig â llifogydd.
