Nid oes diwrnod 'nodweddiadol' wrth weithio mewn Adnoddau Dynol

Emily ydw i, 26 oed ac o’r Gorllewin, rwyf wedi bod yn gweithio fel Prentis Adnoddau Dynol yn Archwilio Cymru ers bron i 2 flynedd.
Ar ôl cwblhau gradd mewn Plismona eisoes, doeddwn i ddim yn hollol siŵr a oedd Prentisiaeth Gweinyddu Busnes wir i mi. Nawr bron i 2 flynedd yn ddiweddarach a dwi mor falch fy mod wedi penderfynu ymgeisio!
Roedd pob modiwl a gwblhais yn caniatáu imi gael gwell dealltwriaeth o AD mewn theori ac ymarfer ac rwyf wedi datblygu sgiliau y gallaf eu cymryd gyda mi mewn unrhyw rôl weinyddol.
Nid oes diwrnod 'nodweddiadol' wrth weithio mewn AD, mae pob diwrnod yn cynnwys heriau a chyfleoedd newydd i ddysgu ohonynt yr wyf i mor ddiolchgar amdanynt. Roedd fy rôl yn cwmpasu maes enfawr o AD gan gynnwys recriwtio, dysgu a datblygu, ar fyrddio, gwaith papur staff ac ymholiadau e-bost y bu'n rhaid i mi eu jyglo yn ogystal ag astudio ar gyfer fy aseiniadau a'm profion.
Mae fy nhîm bob amser yn rhoi'r cyfle i mi hyrwyddo fy natblygiad ac roeddwn i'n ddigon ffodus i gael Shannon a Vic fel mentoriaid a wnaeth fy nghynorthwyo yn ystod fy mhrentisiaeth drwy gynnig cyngor, cefnogaeth a sgyrsiau dal i fyny gyda’r merched bob wythnos!
Mae fy hyder wedi tyfu'n aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a fedra i ddim diolch digon i fy nhîm. Dwi'n bendant wedi gwneud ffrindiau am oes ac yn edrych ymlaen at y dyfodol!
Ynglŷn â'r awdur
Mae Emily Barresi yn aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol. Ar hyn o bryd, mae'n cwblhau Prentisiaeth 23 mis ac yn ddiweddar cwblhaodd ei Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes (QCF).