Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

20 Ion 2020 - 3:43yp

Mae’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’i phum ffordd gysylltiedig o weithio wrth ddylunio’r cam hwn.

23 Rhag 2019 - 2:38yp

Fe wnaethom archwilio i ba raddau mae'r Llyfrgell yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth ddatblygu a chyflawni'r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

18 Rhag 2019 - 3:12yp

Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein canfyddiadau ar ddull corfforaethol y Bwrdd Iechyd o ymgorffori'r egwyddor datblygiad cynaliadwy a sut y cymhwyswyd y pum ffordd o weithio drwy ei waith mewn perthynas â rhaglenni addysg i gleifion a'r cyfraniad a wnânt i wella iechyd a lles y boblogaeth.

6 Tach 2019 - 3:30yp

Mae’r adroddiad atodol hwn y dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’r adroddiad cenedlaethol ar y Gronfa Gofal Integredig yn nodi ein canfyddiadau ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys mewn mwy o fanylder.

24 Gorff 2019 - 9:42yb

Nodir y gwaith a wnaed ers yr adroddiad gwella blynyddol diwethaf, gan gynnwys y rheoleiddwyr perthnasol, yn yr adroddiad hwn.

22 Gorff 2019 - 9:31yb

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol cael Cod Ymarfer i ymdrin â’r berthynas rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gadw annibyniaeth y swydd honno’n a darparu ar gyfer safonau llywodraethu cadarn ar yr un pryd.

23 Mai 2019 - 11:16yb

Ein casgliad ar y cyfan yw bod y Bwrdd Iechyd yn perfformio’n dda iawn yn erbyn y targedau Cymru gyfan ar gyfer codio clinigol gyda data wedi’i godio o ansawdd da a dim ôl-groniad.

29 Ebr 2019 - 2:47yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gwaith ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a wnaed rhwng mis Mawrth a mis Mai 2018.

22 Maw 2019 - 10:45yb

Mae angen i gyrff y GIG sicrhau bod trefniadau rhyddhau o'r ysbyty yn ddiogel ac yn amserol. 

19 Chwef 2019 - 4:18yp

Mae’r llythyr hwn yn crynhoi’r prif negeseuon sy’n codi o’n cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’n cyfrifoldebau adrodd o dan y Cod Ymarfer Archwilio.

Tudalennau