
-
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre – Adolygiad o Drefniadau…
-
Pryniant Llywodraeth Cymru o Fferm Gilestone
-
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth…
-
Cyngor Gwynedd – Diweddariad ar Gynnydd Datgarboneiddio
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Adolygiad Sicrwydd ac Asesu Risg
Dyma'r cyntaf o gyfres o adroddiadau cryno sy'n edrych ar ddarlun o wasanaethau cyhoeddus.
Ar ôl cyhoeddi adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau cryno sy'n benodol i'r sector.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth allweddol am lywodraeth leol yng Nghymru.
Mae'n archwilio gallu yn y sector, perfformiad, ac yn amlinellu rhai o'r materion neu heriau allweddol.
Yr hyn a ganfuwyd gennym
Mae llywodraeth leol yn sector cymhleth gyda materion penodol sy'n effeithio ar wahanol wasanaethau. Ni fwriedir i'r adroddiad cipolwg hwn fod yn gynhwysfawr. Mae'n nodi'r hyn a ystyriwn yn rhai o'r materion allweddol i lywodraeth leol.
Wrth edrych ymlaen, mae'r galw am wasanaethau lleol yn cynyddu, tra bod cyllidebau ar draws y sector cyhoeddus i'w gweld yn parhau'n dynn. Mae heriau mawr yn wynebu cynghorau wrth iddynt geisio rheoli'r pwysau hyn tra hefyd yn gwella o'r pandemig ac yn ymateb i her fyd-eang newid yn yr hinsawdd.


