Rydym am gyflogi Uwch Archwilwyr i ymuno â'n tîm.

Rydym yn cyflogi!
Rydym yn chwilio am bobl cryf eu cymhelliad i fod yn rhan o'n timau egnïol a gwydn. Byddwch yn gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad naill ai mewn archwilio neu o fewn lleoliad cyfrifyddu. Byddwch yn hyderus wrth gynnal perchnogaeth o'ch gwaith eich hun a byddwch yn dod â'ch profiad archwilio cyfrifyddu drwy eich achrediad CCAB
Mae profiad o'r sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, ond byddwch yn chwaraewr tîm ymroddedig, yn awyddus i wella canlyniadau i ddinasyddion Cymru.
Mae angen arnom rywun sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy ddoethineb gadarn a sgiliau dadansoddol a chyfathrebu rhagorol.
Ydy hyn yn swnio fel chi? Canfuwch fwy am y swydd a sut i wneud cais ar y dudalen we swyddi gwag.
Pam ymuno ag Archwilio Cymru?
Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.
Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).
Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.
Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.
Am ragor o fanylion ac i wneud cais [Agorir mewn ffenest newydd]