• Hyfforddai Graddedig
    £30,617- £39,811(band cyflog TR22)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi'n gweld eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Ydych chi'n chwilio am gyfle o’r radd flaenaf wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer person graddedig i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig? Ydych chi'n angerddol am wella gwasanaethau cyhoeddus?

Yna efallai mai ein rhaglen Hyfforddai Graddedig yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano!

Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifeg wrth ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.

Byddwch yn chwarae rhan yn yr archwiliad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod y gwaith rydych chi'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!

Mae ceisiadau yn agored i raddedigion o bob disgyblaeth, gyda swyddi ar gael ledled Cymru. Gyda swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno a Chaerdydd, lle bynnag yr ydych wedi'ch lleoli, gallai fod rôl i chi yn Archwilio Cymru.

Pwy yw Archwilio Cymru

Ni yw'r corff archwilio annibynnol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; ein rôl unigryw yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae ein gwaith yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau lleol; mae rhywfaint o'n gwaith cenedlaethol diweddar wedi edrych ar dai fforddiadwy, cynhwysiant digidol, teithio llesol, digartrefedd a newid hinsawdd.

Pam Archwilio Cymru?

Rydym yn gofalu bod ein hyfforddeion yn cael eu dysgu a’u datblygu, a byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn wrth i chi gydbwyso eich astudio â'ch rôl ymarferol fel hyfforddai.

Mae gennym hefyd restr drawiadol o fanteision:

  • 33 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (ac eithrio gwyliau banc cyhoeddus)
  • Pecyn cyflog hael, yn ddechrau ar £30,617
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Gostyngiadau siopa
  • Tanysgrifiadau proffesiynol

Rydym hefyd yn falch o gael ein hachredu gyda Working Families a'r Sefydliad Cyflog Byw ac rydym yn parhau i dyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, profiadau a safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cynnydd drwodd i gam cyntaf y broses ddethol ar gyfer pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Ionawr 2026.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ym mis Gorffennaf 2026.

Caniateir defnyddio AI yn y broses ymgeisio, ond nid yw dibynnu ar AI yn unig ar gyfer ysgrifennu eich cais neu ddatganiad ategol yn cael ei argymell gan Archwilio Cymru a gallai effeithio'n negyddol ar eich siawns o lwyddo yn y broses ymgeisio.

Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Sian Grainger ar 02920 320547 neu ewch i'n gwefan i wneud cais.

Dyddiad Cau

  • 18/01/2026
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy