• Prentis Gwyddor Data

Prentis Gwyddor Data

A ydych yn cael eich cyfareddu gan wyddoniaeth data a'r offer a'r sgiliau sy'n helpu i ddatrys problemau? Ydych chi wrth eich bodd yn defnyddio mathemateg i ddatrys problemau?  Hoffech chi gael profiad anhygoel, cyflog gwych a chyfle i fynd i'r brifysgol hefyd?

Mae'r Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data yn rhaglen tair blynedd, sy'n rhoi cyfle i bobl ymuno ag Archwilio Cymru i gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data tra'n astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddor Data fel rhan o brentisiaeth lefel 6. Wrth gyflwyno'r llwybr lefel mynediad hwn i Archwilio Cymru, gobeithiwn gynyddu amrywiaeth y proffesiwn ac annog pobl o bob cefndir i ymuno â ni.

Byddwch yn gweithio wrth wraidd Gwyddor Data yn Archwilio Cymru ac yn ymuno â'r tîm profiadol o Wyddonwyr Data ar draws ein sefydliad. Byddwch yn elwa o sgiliau gwerthfawr wrth weithio, a byddwch yn tyfu eich gallu wrth i chi helpu'r tîm i ymgorffori agwedd arloesol ac angerddol at wyddoniaeth data, tra'n astudio ar gyfer BSc mewn Gwyddor Data fel rhan o'r brentisiaeth Lefel 6 hon. Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o dimau o bob rhan o Archwilio Cymru i ddatblygu atebion wedi’u harwain gan ddata wrth ddatrys problemau cysylltiedig cymhleth, ac ennill arian yn y cyfamser.

Dewch chi â'ch angerdd, a byddwn yn darparu’r offer, technegau a'r sgiliau gwyddor data i chi ddatblygu’n wyddonydd data cymwys. Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd yn y disgrifiad swydd.

Bydd y rhaglen yn dair blynedd o hyd ac ar hyn o bryd mae'n cael ei ddarparu gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Bydd y radd yn debygol o gwmpasu ystod o bynciau fel y rhai a restrir isod.

Modiwlau posib:

  • Rhaglennu
  • Algebra Llinellol
  • Tebygolrwydd, Ystadegau a Dadansoddi Data
  • Ymarfer mewn datrys problemau rhyngddisgyblaethol
  • Dadansoddi ac Optimeiddio
  • Cyfathrebu
  • Cronfeydd data
  • Geometreg a Grwpiau
  • Modelu a Dadansoddi Rhifyddol
  • Rhaglennu sy'n Canolbwyntio ar Wrthrychau
  • Graffiau, Rhwydweithiau a Systemau Cymhleth
  • Patrwm Data
  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Ceisiadau Data Uwch

Cwblheir y radd drwy eich rhyddhau o’r gwaith ar ddyddiau astudio.

Cewch eich annog a'ch cefnogi drwy gydol eich prentisiaeth i reoli eich datblygiad personol eich hun drwy adolygiadau cynnydd, a bydd eich rhaglen radd yn cael ei hategu gan weithdai datblygu sgiliau, rhaglenni technegol a sgiliau meddal.

Yn ogystal â chefnogaeth eich cyfoedion, bydd rheolwr llinell gennych a fydd â chyfrifoldeb hanfodol i'ch datblygu a'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, a chyfaill i'ch helpu setlo yn eich swydd newydd yn ogystal â darparu cymorth anffurfiol parhaus.

I wneud cais am y brentisiaeth hon, dylech gael, neu obeithio cael y canlynol:

  • Tair Lefel A ar radd C neu uwch, ac mae'n rhaid i un ohonynt fod mewn pwnc STEM neu gymhwyster cyfatebol
  • Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (e.e. TGAU A* - C)

Gall ymgeiswyr wneud cais ar gryfder eu graddau lefel A disgwyliedig. Bydd unrhyw gynigion a wneir yn parhau i fod yn amodol ar ennill y cymwysterau academaidd angenrheidiol.

Gan y byddwch yn cael eich cefnogi i gwblhau'ch Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data, mae gofynion cymhwysedd penodol y mae angen eu bodloni. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn yr adran Cymhwysedd Cyffredinol.

  • Gwybodaeth Gyffredinol  

    sy'n Gymwys i bob Prentis

Cymhwysedd ar gyfer y Brentisiaeth

I fod yn gymwys am brentisiaeth rhaid bodloni’r canlynol:

  • Mae gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU;
  • Rydych yn byw yng Nghymru, neu mae eich cyflogwr wedi'i leoli'n barhaol yng Nghymru;
  • Rydych wedi gadael yr ysgol yn gyfreithiol;
  • Rydych yn bwriadu aros mewn cyflogaeth am y 12 mis nesaf;
  • Rydych heb gael eich ariannu eisoes ar gyfer cyrsiau hyfforddi eraill gan Lywodraeth Cymru;
  • Rydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol;
  • Rydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Bydd Rhaglenni Prentisiaeth yn derbyn cymorth ariannol drwy Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymwysterau prentisiaeth lle mae gan unigolyn gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel yn flaenorol (nac ar lefel uwch). Ni ddylech ymgeisio am gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel â chymhwyster sydd gennych eisoes.

Fodd bynnag, pe bai'r brentisiaeth yn caniatáu i'r unigolyn ennill sgiliau newydd sylweddol, ac roedd yn amlwg bod cynnwys y cymhwyster yn sylweddol wahanol i unrhyw gymhwyster blaenorol, yna gallai prentisiaeth o'r fath fod yn gymwys i gael arian.

Fel rhan o'r broses recriwtio bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda darparwr hyfforddiant y brentisiaeth. Mae'r darparwyr hyfforddiant yn rhan annatod o'r broses recriwtio gan eu bod yn gyfrifol am gadarnhau cymhwysedd ymgeiswyr i ymgymryd â'r brentisiaeth yn unol â Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Wrth gytuno i barhau â'r broses ymgeisio, rydych yn cytuno i rannu eich manylion gyda'r darparwr hyfforddiant.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru gan nodi'n glir y cymwysterau sydd gennych eisoes.

Noder nad yw'r canllawiau a roddir uchod yn ystyried pob amgylchiad ac mae Archwilio Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais os yw o'r farn nad yw unrhyw feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.

Prentisiaeth Gwyddor Data

O ran pa gymwysterau sydd y tu allan i feini prawf i fod yn gymwys, byddem yn cynghori bod unrhyw gymhwyster "Gwyddorau Data" neu "Gyfrifiadureg" ar lefel gradd neu uwch yn anghymwys. Bydd angen ystyried hefyd unrhyw gymwysterau sy'n cynnwys modiwlau dadansoddi data/gwyddor data neu gyfrifiadureg i lefel 4 er mwyn gwirio cymhwysedd i ariannu. Bydd yr holl gymwysterau'n cael eu gwirio fesul achos yn ystod y cam sifftio.

Sut iwneud cais

Rydym ond yn derbyn ceisiadau drwy ein porth ar-lein, nid ydym yn derbyn CVs, ond os ydych am i ni ystyried addasiad rhesymol rhowch wybod i ni mewn da bryd.

Wrth gwblhau eich cais

Ymgyfarwyddwch eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol sydd yno ar gyfer y swydd prentis.

Rydym yn chwilio am sut mae eich astudiaethau a/neu brofiad blaenorol mewn gwaith neu ddiddordebau allanol yn eich gwneud yn addas i ddechrau gyrfa fel prentis.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys tystiolaeth o:

  • Eich cymwysterau presennol sy’n bodloni'r safon addysgol ofynnol.
  • Yn eich Datganiad Personol rydym am gael gwybod amdanoch chi, pam bod gennych ddiddordeb yn y prentisiaeth a beth sy’n eich diddori a beth rydych wedi’i gyflawni hyd yma, boed hynny mewn gwaith, yn yr ysgol neu goleg neu drwy chwaraeon neu wirfoddoli, profiadau neu ymddygiadau sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd.

Sylwer – defnyddir y ffurflen gais i asesu pob ymgeisydd.  Gall methu â chwblhau'r cais yn fanwl olygu na fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam asesu. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol rydym yn chwilio amdanynt.

Canolfan Asesu

Bydd pob proses asesu prentisiaid yn cael ei chwblhau gan ganolfan asesu. Bydd canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfweliad a chwblhau rhyw fath o brawf, gan amlaf ysgrifenedig neu drwy chwarae rôl. Bydd rhagor o wybodaeth am y cam hwn yn cael ei darparu yn nes at yr amser.

Darperir adborth i bob ymgeisydd sy'n mynychu canolfan asesu.

Gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Rhaglen Brentisiaethau, neu os bydd unrhywbeth yn aneglur, mae croeso i chi ebostio recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs