Ein gwaith
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid a bleidleisir amdano gan y Cynulliad Cenedlaethol bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu rhan helaeth o’r cyllid yma i’r GIG a llywodraeth leol.
Gwaith archwilio
Mae ein gwaith archwilio yn cynnwys:
-
Archwilio ariannol – archwilio cyfrifon mewn amryw o gyrff cyhoeddus i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei gyfrifo’n gywir.
-
Archwilio perfformiad – astudiaethau gwerth am arian a gwaith perfformiad lleol.
Arfer da
Trwy ein gwaith rydym yn dod ar draws arferion da ac yn rhannu hyn trwy ein Cyfnewidfa Arfer Da a chyfryngau eraill, gan gynnwys digwyddiadau dysgu ar y cyd ac adnoddau.
Gallwch gael mwy o wybodaeth amdanom a sut ydym yn gweithio â sefydliadau eraill ar adroddiadau ar y cyd.