Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Drwy'r glaw â mi tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd gydag ymdeimlad o obaith y byddai'r hyn roedden ni'n ei wneud yn helpu eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, teimlad llawer mwy optimistaidd na'r ofn arferol o’r posibilrwydd o golli gartref...
Sychodd y glaw wrth i'r cynrychiolwyr gyrraedd ac ymgartrefu cyn cael eu croesawu i'r digwyddiad gan Dr Ian Rees, Cadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Risg ein hunain. Yna, trosglwyddodd yr awenau i Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a roddodd araith yn sôn am y cyd-destun a'r heriau presennol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Cawsom sgwrs ddiddorol wedyn gan Paul Dossett, Pennaeth Llywodraeth Leol Grant Thornton. Bu'n sôn am ei brofiadau yn Lloegr, lle mae'r dirwedd reoleiddiol yn wahanol, a rhannodd rhai enghreifftiau lle mae pethau wedi mynd o chwith – peth ohono’n ddychrynllyd. Roedd yn deimlad da i wybod bod Archwilio Cymru yn ychwanegu diogelwch cadarnhaol yma yng Nghymru.
Yna ein tro ni oedd hi - tro y tîm Ymchwil a Datblygu i gyflwyno sesiwn ryngweithiol gan ddefnyddio dull 'triawdau gwrando' i gael y cynrychiolwyr i gyfnewid eu gwybodaeth a'u profiadau o bwyllgorau archwilio. Aeth y sesiwn yn dda, a chasglwyd llawer o wybodaeth i gyfrannu at ein gwaith ymchwil. Fel bob amser, cynhyrchodd y dull syml o ganiatáu i bobl siarad yn ddi-dor, a chael gwrandawiad gweithredol, deimlad cadarnhaol yn yr ystafell.
Mae Triawdau Gwrando yn ffordd o wrando a dal gwybodaeth gan grwp o dri. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn profi rolau sylwedydd, siaradwr a gwrandäwr yn eu tro. Mae’r Siaradwr yn siarad heb eu tarfu am gyfnod penodol o amser. Mae’r gwrandäwr yn gwrando yn weithredol. Mae’r sylwedydd yn nodi ac yn adrodd yn ôl y prif bwyntiau sydd wedi eu crybwyll gan eu hadrodd yn ôl i’r ddau arall er mwyn eu gwirio. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cyfnewid rolau nes fod pawb wedi cael cyfle i brofi y tair rôl.
Gwnaeth egwyl cinio haeddiannol roi cyfle i bawb gysylltu â phobl newydd a dal i fyny â wynebau cyfarwydd: newid braf i lawer oedd y cyfle i weld eu gilydd yn y cnawd. Roedd gennym gefnlen ddiddorol hefyd o weld cae pêl-droed yn cael ei droi'n gae rygbi, yn barod ar gyfer 'Dydd y Farn 2024' (rhaglun eironig efallai o'r cyhoeddiad ar y newyddion gyda'r nos am etholiad cyffredinol?)
Wedi ein hadfywio ar ôl cinio blasus, cawsom weithdy rhyngweithiol arall wedyn. Gan weithio gyda hwyluswyr Dadansoddi Gwraidd Achos Archwilio Cymru, cynhaliwyd sesiwn dadansoddi gwraidd achos gan ddefnyddio Prosiect Tram Caeredin fel astudiaeth achos – prosiect seilwaith a oedd yn ymddangos yn syml a wnaeth daro llawer gormod o gyrbau wrth ei weithredu ac sydd bellach yn stori rybuddiol o'r hyn a allai fynd o'i le, gan arwain at ymchwiliad cyhoeddus. Roedd y sesiwn yn gynhyrchiol iawn ac yn gyfle i gynrychiolwyr roi cynnig ar ddull esgyrn pysgod Ishikawa o fynd at wraidd problem, yn ogystal â chyfnewid rhywfaint o wybodaeth a syniadau. Dilynom y model a ddyfeisiwyd gan Sefydliad Archwilio ac Atebolrwydd Canada, sy'n cynnwys themâu a ddewiswyd ymlaen llaw i ganolbwyntio arnynt.
Mae diagramau Ishikawa yn ddiagramau sydd yn dangos ffactorau a allai fod wedi achosi digwyddiad penodol. Yn yr enghraifft yma mae’r nam, neu’r broblem i’w datrys yn cael ei nodi ym mhen y pysgodyn, sy’n wynebu’r dde, gyda’r ffactorau oedd yn cyfrannu wedi eu nodi i’r chwith yn estyn allan o’r canol fel esgyrn pysgodyn; mae pob ‘asgwrn’ gyda chategori wedi ei ddynodi sydd yn nodi ffactorau sydd yn y pen draw yn arwain at wraidd y broblem.
I gloi’r diwrnod cafwyd trafodaeth banel fywiog: gwnaeth detholiad o Gadeiryddion profiadol (Martin Veale, Janet Wademan, Hywel John a Mike Usher) ynghyd â'n Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio (Ann-Marie Harkin) ateb cwestiynau heriol o'r ystafell. Roedd yn dda clywed rhai safbwyntiau amrywiol a chlywed rhywfaint o arfer da yn cael ei rannu. Yna aeth pawb adref gydag ychydig o gysylltiadau newydd, rhai mewnwelediadau i sut y gallwn wella pwyllgorau archwilio, a rhai adnoddau newydd i roi cynnig arnyn nhw yn ôl yn ein swyddi bob dydd. Roedd yn sicr yn teimlo fel ennill gartref!
Mae Lisa Ridley yn Ymchwilydd gyda'r tim Ymchwil a Datblygu. Mae wedi bod yn gweithio i Archwilio Cymru am nifer o flynyddoedd gan gyflawni nifer o rolau o fewn y sefydliad, o fewn Archwilio Ariannol a Pherfformiad yn ogystal a'r gwasanaethau corfforaethol canolog. Lisa fu yn arwain ein gwaith ymchwil ar Bwyllgorau Archwilio