Nofio yn erbyn y llif

Nofio yn erbyn y llif
29 Medi 2022
Eiconau o blât, banc mochyn, gliniadur a ffôn clyfar

Y blog hwn yw'r cyntaf mewn cyfres sy'n edrych ar effeithiau posibl yr argyfwng costau byw ar wasanaethau cyhoeddus a chymunedau yng Nghymru.

Roeddwn i’n ffodus fy mod i wedi dysgu nofio yn ifanc iawn yn fy mhwll nofio cyhoeddus lleol a thaith i'r 'baddonau' oedd uchafbwynt fy wythnos.

Fe wnaeth hyn fy nhrwytho â chariad gydol oes at ddŵr a'r gallu i gadw'n ddiogel ynddo a deall sut i'w barchu. Gyda'r argyfyngau ynni a chostau byw presennol yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth cyhoeddus dewisol hwn, a fydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael yr un cyfle ag a gefais i? A fydd yr ymateb i'r mater hwn yn y tymor byr yn cael effeithiau negyddol hirdymor? Sut mae hyn yn cefnogi nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig 'Cymru iachach' a'r uchelgais atal?

Mae llawer o erthyglau wedi bod yn y cyfryngau yn ddiweddar ynglŷn ag effaith yr argyfwng costau ynni ar ein pyllau nofio cyhoeddus – ond a oes perygl gwirioneddol i'r cyfleusterau hanfodol hyn a beth fydd yr effaith?

Yn ôl arolwg diweddar gan y corff nid-er-elw ukactive, mae naw o bob deg o weithredwyr pyllau cyhoeddus yn bwriadu cwtogi eu gwasanaethau yn ystod y chwe mis nesaf oherwydd costau ynni cynyddol. Maen nhw wedi cyhoeddi neges lom: "O ystyried y ffaith yr aeth y DU i mewn i bandemig COVID-19 o sylfaen isel (un o bob tri phlentyn yn methu â nofio), ni allwn fforddio caniatáu i byllau nofio barhau i gau a cholli mynediad i byllau nofio yn barhaol. Mae gan y gwledydd sy'n gorfodi dysgu nofio a diogelwch dŵr i lefel uchel (e.e. Sweden) gyfraddau boddi cymharol isel.

Yn anffodus, fel y nodwyd mewn erthygl ddiweddar gan y BBC: "Ar gyfartaledd, mae tua 45 o bobl yn marw mewn digwyddiadau sy’n ymwneud â dŵr bob blwyddyn yng Nghymru, gyda 600 o bobl ar gyfartaledd ledled y DU....nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 yw haneru nifer y marwolaethau damweiniol o ganlyniad i foddi erbyn 2026." Mae llawer o waith yn cael ei wneud i wella'r ystadegau hyn.

Mae Nofio Cymru, drwy ymgynghori â phartneriaid, wedi datblygu Cynllun Nofio Ysgol ar gyfer Cymru er mwyn darparu fframwaith addysgu ar gyfer athrawon ac ysgolion - Nofio Ysgol. Y partneriaid sy'n ymwneud â'r ymrwymiad hwn sef 'Pob Plentyn yn Nofiwr' yw Llywodraeth Cymru, y 22 awdurdod lleol, Chwaraeon Cymru a Diogelwch Dŵr Cymru.

Yn ogystal â dysgu sut i nofio, mae disgyblion hefyd yn dysgu am ddiogelwch dŵr - gyda rhai trychinebau dŵr diweddar yn tynnu sylw at yr angen am hyn. Gydag incwm gwario yn crebachu ac felly’n cyfyngu ar y gwariant ar hamdden, ynghyd â thywydd cynhesach oherwydd newid hinsawdd, tybed a yw pobl yn cael eu denu i ddyfroedd agored a allai fod yn beryglus?

Y llynedd, datblygwyd partneriaeth newydd rhwng Nofio Cymru, Triathlon Cymru a Dŵr Cymru mewn ymateb i’r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn nofio dŵr agored. Mae achrediad S.A.F.E. Cymru wedi ei ddatblygu gan y bartneriaeth i gefnogi'r newid hwn tuag at nofio dŵr agored. Ond mae sgiliau nofio sylfaenol yn cael eu dysgu gan y mwyafrif llethol o bobl yn amgylchedd diogel pwll nofio ac mae nifer yn gwneud hyn drwy wersi nofio ysgol.

Ers mis Hydref 2019, mae cyllid wedi'i ddatganoli i bwy bynnag sy'n darparu gwasanaethau hamdden, gan ddisodli cynlluniau blaenorol. Gyda gostyngiad yn y gyllideb (£3 miliwn o Ebrill 2020, ynghyd â rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth £1 miliwn ar gyfer diweddaru pyllau), roedd yr arian hwn i fod i ganolbwyntio’n fwy ar bobl o ardaloedd difreintiedig yn hytrach na phob ardal. Cafodd y penderfyniad ynglŷn â sut ac os darperir sesiynau nofio am ddim ei ddatganoli felly i awdurdodau lleol ac i bwy bynnag sy'n darparu gwasanaethau hamdden (h.y. ymddiriedolaethau hamdden).

Felly, gyda'r angen am wersi nofio yn cael ei fynegi'n glir, ond eto gwersi heb eu gorfodi, sut mae ein hawdurdodau lleol yn darparu cyfleusterau i gefnogi hyn heblaw ymrwymo i’r fframwaith Nofio Ysgol? Ac a oes rhaid iddyn nhw?

Yr ateb syml yw nac oes – mae hamdden yn wasanaeth dewisol, gyda phyllau nofio yn dreth enfawr ar gyllid. Ond, fel y cydnabuwyd yn ein hadroddiad POPS diweddar: "Er bod gan gynghorau fwy o ddewis dros y gwasanaethau hyn, mae rhai yn estyniad o wasanaethau statudol, neu'n cael eu hystyried yn werthfawr iawn ac yn bwysig wrth gyflawni gweledigaeth cynghorau."

Gyda'r cynnydd mewn costau ynni y mae'r wlad yn eu hwynebu bellach, sy’n ddigon hysbys, sut gall cynghorau ateb y galw heb chwalu’r gyllideb?

Hyd yn hyn, nid ydym yn gwybod ac mae'r pwysau presennol yn y sector hamdden cyhoeddus yn crynhoi megis storm berffaith o heriau: effaith barhaus Covid (bwlch mewn sgiliau nofio oherwydd y cyfyngiadau symud ac effaith anhysbys Covid hir), y gronfa galedi yn dod i ben, newid ymddygiad mewn ymarfer corff oherwydd bod cyfleusterau’n cau, a'r ffaith syml na fydd pobl yn gallu fforddio unrhyw ffioedd uwch.

Mae ychydig dros hanner cynghorau Cymru wedi trosglwyddo eu gwasanaethau hamdden i gyflenwyr allanol (llawer ers i ni gynnal ein hadolygiad yn 2015 'Cyflawni gyda Llai – Gwasanaethau Hamdden'), gyda'r nod o leihau costau. Mae'r gwasanaeth dewisol hwn yn parhau i fod yn fater dadleuol yn wleidyddol ac mae unrhyw doriadau, neu doriadau canfyddedig, yn achosi adlach gref ymhlith y cyhoedd sy'n dangos cymaint y mae’n cael ei werthfawrogi gan gymunedau yng Nghymru.

Gall trosglwyddo’r gwasanaethau hyn i gyflenwyr allanol leddfu rhywfaint o bwysau ariannol ond nid i gyd. Mae pyllau nofio yn dreth arbennig ar gostau ynni, serch hynny maen nhw'n parhau i fod yn hanfodol i'n cymunedau. Yn ogystal â gwersi nofio, hamdden ac ymarfer corff, maen nhw’n hanfodol ar gyfer mentrau rhagnodi cymdeithasol. Mae hefyd gysylltiadau â rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif (lle mae pyllau yn cael eu lleoli ar safleoedd addysg). Felly ni all gwasanaethau cyhoeddus gau'r drysau a draenio'r pyllau tan ddyddiau gwell yn ariannol. Mae datblygiadau technegol a allai helpu ond byddai angen buddsoddi’n sylweddol ar gyfer y rhain felly efallai y bydd angen canfod atebion symlach: tymheredd is yn y pyllau, oriau agor byrrach, llai o staff, ac ati.

Er gwaethaf y rhagolygon arswydus hyn, mae llygedyn o obaith – gyda rhywfaint o gyllid wedi'i dargedu, technolegau gwell, ymgyrch i wella sgiliau nofio ein cenedlaethau iau a mwy o ddefnydd o ragnodi cymdeithasol yn cuddio y tu ôl i'r penawdau. Yr her fydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ddal ati a goresgyn y problemau a achosir gan yr argyfwng costau byw a helpu i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn er lles pawb, gan gyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol ac osgoi’r loteri cod post.

Beth ydych chi’n ei feddwl? Sut gall gwasanaethau cyhoeddus ddiogelu asedau cymunedol fel pyllau nofio wrth reoli effaith enfawr costau cynyddol ynni yr un pryd? Rhowch eich sylwadau isod neu anfonwch neges e-bost (mewnosodwch gyfeiriad).

  • Ym mis Hydref, bydd ein tîm Cyfnewid Arfer Da yn darparu digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ddod â phobl at ei gilydd o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth am sut y gall sefydliadau ymateb i'r heriau a achosir gan dlodi. I gofrestru eich diddordeb, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein: Caerdydd/Conwy.

Bywgraffiad

Lisa Ridley, Ymchwil a Datblygaid