Mesur llwyddiant y Cwricwlwm newydd i Gymru

Mesur llwyddiant y Cwricwlwm newydd i Gymru
24 Awst 2022
Person ifanc mewn ystafell ddosbarth yn ysgrifennu ar fwrdd gwyn.

Wrth i'r flwyddyn ysgol ddod i ben, mae Cymru'n edrych ymlaen at garreg filltir bwysig ym mis Medi 2022 gydag addysgu'r Cwricwlwm newydd i Gymru am y tro cyntaf.

Bydd pob ysgol gynradd yn dechrau defnyddio'r cwricwlwm newydd a bydd bron i hanner ysgolion uwchradd, canol ac arbennig yn ei gyflwyno ar gyfer eu dosbarthiadau blwyddyn 7.

Cerrig milltir allweddol - Medi 2022: addysgu'r cwricwlwm newydd am y tro cyntaf mewn ysgolion cynradd a dewisol ar gyfer blwyddyn 7. Medi 2023: gorfodol ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8. 2026/27: dyfarnu'r cymwysterau cyntaf

Mae'r cwricwlwm newydd yn golygu newid mawr yn addysg pobl rhwng 3 ac 16 oed.

Cwricwlwm ysgol yw popeth mae dysgwr yn ei brofi; nid dim ond yr hyn sy'n cael ei ddysgu, ond sut a pham mae'n cael ei ddysgu.  Bydd gan bob ysgol yr hyblygrwydd i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun o fewn fframwaith cyffredinol a adeiladwyd ar bedwar diben y cwricwlwm i Gymru [agorir mewn ffenestr newydd].

Mae rhain i gefnogi ei ddysgwyr i ddod yn:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau,
  • Mentrus, cyfranwyr creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith,
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd,
  • Unigolion iachus hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Sut fyddwn ni'n gwybod os bydd y cwricwlwm yn cyflawni'r nodau hyn?

Yn ein hadroddiad ym mis Mai 2022 ar gynllunio a gweithredu'r cwricwlwm newydd, fe ddywedon ni nad oedd hi'n glir eto sut y bydd y rheiny sydd â diddordeb mewn addysg – gan gynnwys rhieni, gofalwyr a dysgwyr – yn gwybod a yw'r cwricwlwm newydd yn gyffredinol, ac ysgolion unigol, yn cyflawni'r nodau hyn. Argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru yn nodi manylion am sut y bydd yn sicrhau tryloywder i rieni, dysgwyr a'r cyhoedd.

Argymhelliad i ddatblygu dull sy'n ategu gwelliant yn ogystal ag atebolrwydd democrataidd a thryloywder.

Roedd llwyddiant neu fel arall systemau addysg wedi tueddu i gael eu barnu, yn rhannol o leiaf, yn ôl arholiadau a chanlyniadau profion. Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar addysg sy'n gyfrifol am y mesur hyn ac mae llawer o ffactorau'n effeithio arnynt. Mae canolbwyntio’n ormodol ar fesurau mor uchel eu cyfran yn gallu gwyrdroi gweithgaredd ysgolion. Mae llawer o randdeiliaid yn gweld dull newydd o weithredu gyda mwy o rôl ar gyfer hunan-werthuso fel cryfder, gan dorri'r cysylltiad rhwng mesurau asesu ac atebolrwydd.

Ers 2018, dyw ysgolion heb orfod cynnwys gwybodaeth gymharol o asesiadau darllen a rhifedd cenedlaethol yn eu hadroddiadau i'r llywodraethwyr. Ym mis Gorffennaf 2020, arweiniodd effaith anwastad y pandemig ar ysgolion Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i gyfrifo neu gyhoeddi mesurau perfformiad ar gyfer carfannau blwyddyn 11 ac ôl-16 [yn agor mewn ffenestr newydd]. Parhaodd hyn yn 2021/22.

Ddiwedd Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y system o gategoreiddio ysgolion, gafodd ei atal yn 2019/20, yn gorffen. Mae canllawiau statudol ar y fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd [yn agor mewn ffenestr newydd] yn nodi ei disgwyliadau ar gyfer atebolrwydd democrataidd a gwybodaeth dryloywder a fydd ar gael i'r cyhoedd o ysgolion unigol, awdurdodau lleol (neu awdurdodau esgobaethol i ysgolion ffydd), Llywodraeth Cymru ac Estyn.

Gallai'r trefniadau newydd roi gwybodaeth i rieni, gofalwyr ac eraill i'w helpu i ddeall eu hysgolion, yn dibynnu ar gysondeb ac ansawdd y wybodaeth sydd ar gael. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint o wybodaeth gyd-destunol sydd ar gael i'w helpu i lunio barn wybodus am y data, megis cyfran y disgyblion o aelwydydd difreintiedig.

Ond wrth ateb y cwestiwn ehangach a yw'r cwricwlwm newydd yn cyflawni ei nodau mae angen math gwahanol o dystiolaeth sy'n dilyn cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr dros amser ac sy'n edrych ar holl ehangder y cwricwlwm. Bydd angen iddo ystyried diwygiadau eraill sy'n effeithio ar brofiad a pherfformiad disgyblion. Bydd angen iddo hefyd gynnwys gwahanol grwpiau o ddisgyblion wrth i'r cwricwlwm geisio lleihau anghydraddoldeb.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyd yma?

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar ddata ac anghenion gwybodaeth y system ysgolion [sy'n agor mewn ffenestr newydd] i'w adrodd yn Hydref 2022 yn ogystal â phrosiect ymchwil tair blynedd ar asesu a dilyniant [yn agor mewn ffenestr newydd].

Mae hefyd wedi dweud y bydd yn lansio rhaglen fonitro genedlaethol o ddysgwyr mewn sampl o ysgolion i asesu cynnydd gydag amser. Wrth i fanylion yr ymchwil, gwerthuso a'r monitoring hwn ddod ar gael,  bydd yn gliriach sut y bydd effaith y cwricwlwm newydd yn cael ei asesu mewn ffordd gron.

Heb y darlun llawnach hwn, mae perygl y bydd ymarferion allanol fel y profion PISA sydd ar ddod – y tro nesaf i fod yn ddiweddarach yn 2022 – a chanlyniadau arholiadau'n parhau i fod yn brofion sydd yn fantol uchel i'r system addysg ac i Lywodraeth Cymru.

Amdano’r awdur

Mae Claire Flood-Page yn archwilydd arweiniol. Hi oedd prif awdur adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ganddi ddiddordeb mewn ysgolion a pholisi addysg. 

Y Cwricwlwm newydd i Gymru