Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Sebon llaw, papur toiled a phasta. Roedd yr eitemau hyn ar restr siopa'r rhan fwyaf o bobl wrth i’r set gyntaf o gyfyngiadau ddisgyn dros Gymru ganol fis Mawrth. Un o’r pethau y gwnaethom ddod i werthfawrogi’n gyflym oedd y swydd allweddol y mae gweithwyr allweddol a siopau lleol yn ei chwarae yn ein bywydau.
Bydd effaith coronafeirws yn bwynt siarad am flynyddoedd i ddod gan gynnwys effaith coronafeirws ar ganol ein trefi lleol. Eleni, bydd y tîm Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol yn edrych ar y newidiadau a'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi a'u pwysigrwydd i’n cymunedau.
Mae canol trefi wedi bod wrth wraidd cymdeithas yng Nghymru ers amser maith. Does dim ots o ble rydych chi'n dod a pha mor hen ydych chi, mae gan bob un ohonom atgofion da o ymweld â chanol ein trefi lleol: prynu ein record neu CD gyntaf o Woolworths, prynu anrhegion Nadolig neu mynd am goffi gyda modryb.
Mae canol trefi wedi ac yn parhau i roi gwerth i gymunedau. Maen nhw wedi creu swyddi. Maent wedi rhoi lleoedd i ni wario arian, ymweld a threulio amser y tu allan i'r gwaith. Maent wedi bod yn lleoedd i gymdeithasu, testun siarad ac maent yn rhan o'n hymdeimlad o hunaniaeth.
Mae mwy a mwy o siopwyr yn prynu ar-lein. Mae llawer o siopwyr yn gwneud eu 'siop fawr' mewn archfarchnadoedd y tu allan i'r dref. Mae nifer fawr o'n siopau ar y stryd fawr yn cau. Mae pobl hefyd yn hoffi ymweld â mannau lle mae mwy ar gael na siopau yn unig.
Mae canol trefi wedi bod yn newid ers degawdau ac mae rhai wedi cadw i fyny â hyn. Ond gallwn i gyd feddwl am ganol tref nad yw wedi gallu camu ymlaen gyda’r amser ac sy'n awr yn wynebu heriau mawr. Ac mae COVID19 wedi dod law yn llaw â newidiadau pellach.
Nid yw newidiadau i ganol trefi yn beth newydd. Gallwn ni i gyd gofio effaith gadarnhaol brosiectau adfywio sydd wedi gwella golwg a theimlad rhai canol trefi. Gallwn hefyd gofio'r ychydig o effaith a gafodd prosiectau adfywio eraill a wnaeth arwain at heriau pellach.
Gall adfywio fod yn beth da i rai ac yn beth drwg i eraill. Dymchwel hen adeiladau, creu parthau di-draffig ac adeiladu llefydd manwerthu y tu allan i dref. Gall fod y rhain wedi bod yn dda i rai cymunedau rywbryd, ond beth am gynaliadwyedd tymor hir y trefi hynny sy’n gwasanaethu eu cymunedau?
Rydym yn rhagweld y bydd ein hadolygiad yn rhoi cyfle i lunwyr polisi, busnesau a'r cyhoedd drafod pam bod trefi a’u canol yn bwysig a beth sydd angen ei newid i’w bywiogi.
Rydym am drafod pwysigrwydd ehangach o adfywio. Nid dim ond yr adfywiad ffisegol. Y lles cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, iechyd ac economaidd i gymunedau sy'n byw ac yn ymweld â'r trefi hyn. Rydym yn ystyried yr adolygiad hwn fel cyfle i 'feddwl yn fawr' lle gallwn anelu’n uchel ar gyfer dyfodol ein trefi.
Fe ymunes i â seminar ar-lein yn ddiweddar am ganol trefi a strydoedd mawr ar draws y DU. Roedd y panelwyr yn trafod ystod o bynciau i ni i’w hystyried fel rhan o'n hastudiaeth:
· Gwell mynediad i ganol trefi gyda mwy o lwybrau beicio a cherdded
· Mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd
· Rôl a chyfleoedd marchnadoedd
· Cynllunio a chynnal digwyddiadau
· Bywyd nos a gweithgareddau yn ystod y dydd
· Pwysigrwydd trefniadau parcio da
· Hyrwyddo diwylliant a'r pethau sy'n gwneud eich tref yn arbennig
· Helpu i greu cymunedau iachach
· Datblygu 'ymagwedd sy'n seiliedig ar leoedd ' wrth adfywio trefi
Digonedd o syniadau ac opsiynau. Ond yr hyn sy'n amlwg yw bod trefi'n ffynnu pan fydd pobl yn ffynnu, a'i phobl sy'n bwysig.
Gwyddom, er mwyn adfywio canol trefi'n llwyddiannus ac er mwyn i drefi ffynnu fod angen i ni ddysgu a gwrando ar farn a safbwyntiau pobl. Byddwn yn siarad â chynghorwyr, swyddogion, arbenigwyr adfywio, busnesau, sefydliadau cenedlaethol, sefydliadau'r trydydd sector ac yn bwysicaf oll - chi - y bobl sy'n byw, gweithio ac ymweld â chanol trefi.
Rydym am i chi roi eich barn a'ch profiadau i ni ar ganol eich tref. Er y bydd canol ein tref leol wedi newid tipyn yn barod ac y bydd yn wynebu newidiadau pellach yn y dyfodol, gall y lleoedd hyn fod yn rhai cynaliadwy, gwydn a chanolog i'n cymunedau yng Nghymru yn y dyfodol.
I gwblhau ein harolwg, ewch i'n gwefan [agorir mewn ffenestr newydd].
Mae Sara Leahy yn Uwch Archwilydd yn Archwilio Cymru ac yn gweithio yn y tîm llywodraeth leol. Bydd hi'n rhan o'r tîm sy'n gweithio ar yr astudiaeth hon o adfywio canol trefi. Yn ei hamser hamdden, mae Sara yn mwynhau mynd am dro wrth y môr. Ac wrth gwrs mae hi hefyd yn mwynhau mynd am dro o amgylch canol ei thref leol.