Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Diben y prosiect hwn yw cefnogi ymdrechion y sector cyhoeddus drwy rannu'r hyn a ddysgir drwy'r pandemig. Nid prosiect archwilio yw hwn, a'i nod yw helpu ysgogi rhywfaint o feddwl ac yna ei rannu. Mae ein hallbwn cyntaf o'r prosiect hwn yn nodi rhywfaint o ddysgu wrth i rai gwasanaethau a wnaeth gau o ganlyniad i'r pandemig ddechrau ail-agor. Daw'r dysgu'n bennaf o ail-agor rhai canolfannau ailgylchu gwastraff, ond gall y dysgu cael ei drosglwyddo wrth i sefydliadau ddechrau cynllunio ail-agor gwasanaethau eraill.
Os hoffech fanylion am yr arferion penodol a grybwyllir isod neu am unrhyw wybodaeth arall cysylltwch â dysgu.covid@archwilio.cymru
Trwy bwysleisio ar hynny gellid helpu i osgoi cynnydd sydyn yn y galw a helpu i wella effeithlonrwydd wrth ailagor gwasanaethau. Trwy roi gwybodaeth onest ymlaen llaw i ddefnyddwyr gwasanaethau/darpar ddefnyddwyr, bydd hyn yn eu helpu nhw i ddeall y galw dan yr amgylchiadau presennol cyn i’r gwasanaethau ailgychwyn. Hefyd byddai’n ddefnyddiol cyfleu pa wasanaethau sydd ar gael a pha wasanaethau amgen sydd ar gael. Hefyd, mae’n allweddol rhoi cyfarwyddiadau clir a diamwys er mwyn sicrhau cyfnod pontio llyfn. Trwy sefydlu a chyfleu gweithdrefnau neu reolau newydd gellir osgoi dryswch a phwysau diangen ar wasanaethau. Law yn llaw â hyn y mae cyfathrebu effeithiol, wrth i reolau newid ac wrth addasu i broblemau neu ddigwyddiadau. Gwelsom enghreifftiau o’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio’n dda i gyfleu negeseuon, a thrwy wneud hynny’n dda llwyddwyd i liniaru’r gorddefnydd o wasanaethau mewn rhai meysydd. Byddai cynhwysiant aml blatfform cynhwysfawr a strategaeth ymgynghorol yn debygol o fod o gymorth wrth ailagor gwasanaethau.
Mae deall, rhagweld a chynllunio ar gyfer y galw yn hanfodol wrth ailgyflwyno unrhyw wasanaeth. Fodd bynnag mae’n anodd iawn rhagweld y galw am rai gwasanaethau ac weithiau er eich bod yn gallu rhagweld y galw byddwch yn dal yn methu ateb y galw. Ond mae cael dealltwriaeth lwyr o’r galw a chynlluniau wrth gefn sy’n glir ac yn hawdd eu rhoi ar waith os ceir mwy o alw na’r disgwyl yn gallu helpu i ysgafnhau pwysau, gwella boddhad cwsmeriaid a helpu i gadw pobl yn ddiogel. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i bennu pwyntiau ymyrryd sy’n newid y cyflenwad neu’r negeseuon os yw’r galw’n fwy na’r disgwyl er mwyn osgoi gorlwytho’r gwasanaethau. Gellid defnyddio camau syml megis rhannu’r newyddion diweddaraf am amserau aros yn y ganolfan ailgylchu, rhoi staff i sefyll ar hyd y ffordd i roi gwybod i bobl faint yw’r amserau aros a pha wastraff sy’n annerbyniol. Gellir defnyddio trefn i archebu amser ymlaen llaw neu ddyddiau am yn ail yn ôl rhifau cofrestru’r car mewn canolfannau ailgylchu, sy’n ffyrdd syml o reoli pwysau gormodol. Mae diwallu anghenion trwy ddefnyddio dulliau gwahanol yn ffordd o osgoi pwysau gormodol wrth ailagor gwasanaethau hefyd - gall hyd yn oed rhywbeth mor syml â darparu cyflenwad ychwanegol o fagiau ailgylchu i breswylwyr fod yn ddefnyddiol, neu ddefnyddio cyfleusterau dros dro fel bod llai o angen gwneud taith ddiangen i’r ganolfan ailgylchu, yn ffyrdd a ddefnyddiwyd o leihau’r galw. Hefyd mae hyn yn debygol o leihau’r angen i wneud teithiau hanfodol sy’n ychwanegu’r manteision cysylltiedig ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Mewn sefyllfaoedd digynsail lle mae’r galw yn anodd ei ragweld, mae gallu monitro’r defnydd a wneir o wasanaeth a gallu addasu’n gyflym er mwyn cyfateb i’r galw cynyddol neu atal galw cynyddol hyd yn oed yn bwysicach. Mae’r enghreifftiau o amseroedd aros hir mewn canolfannau ailgylchu sydd newydd eu hailagor yn dangos pa mor anodd yw ymateb i alw cronnol am wasanaethau. Er enghraifft, gall monitro defnydd ac addasu archebion amser er mwyn ymateb i wybodaeth amser real olygu bod modd trefnu archebion ychwanegol, ac mae’n enghraifft syml o’r modd y gellir ymateb i alw cynyddol yn effeithlon.
Rydym ar ddeall bod systemau archebu ar gyfer canolfannau ailgylchu eisoes yn cael eu hystyried fel trefniant parhaol posibl mewn rhai ardaloedd. Felly mae cyfle i roi ystyriaeth ragweithiol i’r posibilrwydd o roi menter fel archebu amser mewn canolfan ailgylchu ar waith mewn gwasanaethau eraill, nid dim ond eu defnyddio i ddatrys problemau heddiw, ond gyda’r potensial o’u defnyddio’n barhaol. Er enghraifft gallai’r posibiliadau o reoli’r galw yn well a defnyddio staff ac adnoddau eraill yn fwy effeithiol ein hannog i ailfeddwl sut y gellid darparu gwasanaethau eraill yn well trwy drefniadau archebu neu ddulliau eraill sy’n rheoli neu roi trefn ar y galw. Mewn rhai ardaloedd clywsom fod defnyddio sianelau digidol ar gyfer cyfathrebu a chael gafael ar wasanaethau wedi cynyddu. Dyma’r amser i ddatblygu hyn a symud yn gynt i wasanaethau digidol a fyddai’n gallu rhyddhau amser i ganolbwyntio ar sianelau cyfathrebu eraill i’r rhai na fedrant ddefnyddio’r sianelau digidol a phobl mewn grwpiau bregus.
Bydd diweddariadau pellach ar gael wrth i ni barhau i gasglu a rhannu dysgu drwy'r prosiect hwn, yn arbennig wrth i ffocws nifer o sefydliadau symud tuag at gynllunio ailadeiladu. Bydd ein ffocws ni yn y dyfodol yn fwy penodol ar y pethau y mae cyrff cyhoeddus yn teimlo y maent wedi'u dysgu hyd yma, yr hyn y byddent yn ei wneud yn wahanol ' y tro nesaf ' a'r hyn y credant y dylai cyrff cyhoeddus eraill ei wybod am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda neu ddim cystal. Byddwn hefyd yn trydar (dilynwch @WalesAudit [agorir mewn ffenestr newydd]) am enghreifftiau penodol o waith diddorol neu newydd wrth i ni ddod ar eu traws.
Mae Tim Buckle yn Rheolwr Archwilio gyda chyfrifoldeb dros lunio a datblygu'r rhaglen waith archwilio perfformiad llywodraeth leol ynghyd â gwaith archwilio perfformiad mewn dau gyngor. Fe ymunodd ag Archwilio Cymru yn 2013 a chyn hynny roedd yn gweithio ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â thri awdurdod lleol yn Ne Cymru.
Lluniau gan: Gwybodaeth am draffyrdd a chefnffyrdd gan Llywodraeth Cymru [agorir mewn ffenestr newydd] a Traffig Cymru [agorir mewn ffenestr newydd] am y goleuo.