Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn dysgu?
Pan gafwyd achosion o Glwy'r Traed a'r Genau yn 2001 (FMD-01), roedd y defnydd o'r rhyngrwyd yn gyfyngedig, ac nid oedd neb wedi clywed am 'y cyfryngau cymdeithasol'. Sefydlwyd Facebook yn 2004, a Twitter yn 2006. Ar y llaw arall, mae COVID-19 wedi bod yn 'bandemig y cyfryngau cymdeithasol' i raddau helaeth iawn. I lawer o bobl, dyma eu prif ffynhonnell wybodaeth (os nad yr unig un).
Mae'r sylwadau hyn yn fyfyrdod personol ar rai o’m profiadau yn ystod FMD-01, sut mae pethau'n wahanol yn ystod COVID-19, a sut gallen nhw fod yn well. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar effaith y cyfryngau cymdeithasol ar sut rydym yn dysgu ac yn gwrando.
Yn ystod FMD-01 roeddwn yn gweithio mewn swydd weithredol i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sef y sefydliad a oedd yn gyfrifol am ddiogelu adnoddau naturiol yng Nghymru; ansawdd y tir, yr aer a'r dŵr. Roeddwn wedi bod yn gwneud y math hwn o waith ers tro, ac roeddwn yn gymharol gyfforddus gyda gwaith rheoleiddio a gwella'r amgylchedd.
Ond roedd yn gyfnod anodd, ac mae argyfwng fel FMD-01 yn gadael ei ôl. Roeddwn wedi tyfu i fyny mewn ardal lled wledig, gan roi help llaw ar ffermydd yn ystod fy ieuenctid, felly roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod ychydig am fywyd ffermio. Wel, does dim byd yn eich paratoi ar gyfer y poen, y dicter a'r anobaith a wynebais yn ystod y sgyrsiau 'canolfan alwadau' gyda'r gymuned ffermio. Roedd pobl wedi gorfod gweld eu holl ddiadellau o ddefaid a'u buchesi o wartheg yn cael eu difa fel rhan o’r 'mesurau rhagofalus’.
Lladdwyd 6 miliwn o wartheg a defaid ledled y DU. Er mwyn atal y feirws FMD-01 rhag ymledu'n barhaus, bu'n rhaid cael gwared â'r carcasau hynny mewn ffordd nad oedd yn diraddio'r amgylchedd. Ni fyddaf byth yn anghofio’r golygfeydd erchyll o’r pyllau amlosgi a'r claddu ar raddfa fawr ar Fynydd Epynt. Dyma oedd 'dileu'r feirws' mewn ffordd gwbl ddigyfaddawd ar raddfa ddiwydiannol.
Digwyddodd fy mhrofiadau FMD-01 cyn i'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio'n eang. Mae'r sefyllfa'n gwbl wahanol heddiw wrth i'r cyfryngau cymdeithasol roi sylw helaeth i COVID-19. Wrth fyfyrio ar y ddwy sefyllfa, rwy'n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith sylweddol ar ddau faes cyffredinol:
Yn ystod FMD-01 roedd y broses o rannu gwybodaeth yn gymharol syml. Yn fras, roedd pedwar dull:
Gwybodaeth gan y Llywodraeth (cenedlaethol a lleol).
Yr hyn roeddem yn ei ddarllen mewn papurau newydd, ei glywed ar y radio neu ei wylio ar y teledu. Roedd hyn yn gymharol debyg i wybodaeth gan gyfryngau 'swyddogol'.
Fel rhywun a oedd yn gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, roeddwn yn derbyn gwybodaeth am y wyddoniaeth, y dystiolaeth a'r ffeithiau gofynnol i wneud fy ngwaith (gallai hyn fod yn wahanol i 1 a 2 uchod).
Yr hyn y mae pobl yn siarad amdano gyda'u teulu, eu ffrindiau a'r bobl y maent yn eu cyfarfod yn y swyddfa bost neu'r dafarn.
Arhoswch am ennyd i gymharu sefyllfa FMD-01 â'r sylw cyson sy'n cael ei roi i COVID-19 ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os edrychwch yn gyflym ar y rhyngrwyd fe welwch filoedd o safbwyntiau ar COVID-19. Mae pobl yn sgrechian am sylw. Mae hyn yn amrywio o gyfryngau swyddogol y llywodraeth ac Athrawon Epidemioleg i newyddion ffug, damcaniaethwyr cynllwyn a phobl â syniadau rhyfedd. Ond pwy ydych chi'n ymddiried ynddo?
Yn 2015 fe ysgrifennais erthygl am y pwnc gan gyfeirio at rywbeth o'r enw 'Troll Farms'. Un peth a nodais oedd yr angen i feddwl yn feirniadol – er mwyn canfod pwy y gallwch chi ymddiried ynddo.
Mae'r hyn a ddywedais yn 2015 yn berthnasol o hyd i COVID-19 - dim ond y ffynonellau gwybodaeth sydd wedi newid. Ar nodyn cadarnhaol, dwi wedi llwyddo i ganfod nifer o ffynonellau gwybodaeth diddorol a dibynadwy, gan gynnwys:
Yn ystod FMD-10, go brin y byddai neb wedi disgwyl derbyn gwybodaeth (ar ffurf trydariadau 280 nod) gan blentyn 16 oed a Phrif Weithredwr Cyngor Lleol. Dyna'r drefn newydd yn ystod COVID-19. Felly, ynghanol yr holl wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, mae angen dod o hyd i ffynonellau dibynadwy.
Mae gwrando ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion yn rhan allweddol o'r hyn y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud.
Mae rhai pobl yn rhannu gormod o ddeunydd am eu profiadau COVID-19 ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae 'Hanesion Covid' (caneuon, fideos a dehongliadau drwy gyfrwng dawns) ar gael o bron pob cwr o gymdeithas, ar bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol y gallwch feddwl amdano. Mae hwn yn gyfle.
Mae'n gyfle i wasanaethau cyhoeddus wrando ar yr hyn sy'n digwydd (y da a'r drwg) a defnyddio'r wybodaeth hon i lunio gwasanaethau er mwyn bodloni anghenion pobl. Efallai nad ydynt yn 'gofyn' am rywbeth, ond maent yn rhannu gwybodaeth bwysig. Mae angen i chi 'wrando' yn y mannau cywir.
Roedd pethau'n wahanol yn ystod FMD-01, ac roedd y broses o wrando'n digwydd yn aml drwy ymgynghoriadau a phrosiectau ymchwil ffurfiol. Nid oedd unrhyw ffordd ddibynadwy o gymryd rhan yn y sgwrs yn y swyddfa bost neu'r dafarn.
Mae enghraifft o waith ymchwil a oedd yn disgrifio effaith FMD-01 ar y gymuned ffermio wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn. Cofiwch mai adroddiad cwbl ddigyfaddawd yw ‘The impact of the foot and mouth outbreak on mental health and well-being in Wales’. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2003 ac mae'n seiliedig ar waith ymchwil cadarn. Fodd bynnag, mae'n rhaid cwestiynu amseriad yr adroddiad a'i effaith yn y pen draw ar benderfynwyr a darparwyr gwasanaethau.
Parhaodd effeithiau FMD-01, gan gynnwys effeithiau ar iechyd meddwl, am flynyddoedd lawer yng nghymunedau gwledig Cymru. Mewn cyferbyniad, mae llawer o'r trafodaethau am effaith COVID-19 ar iechyd meddwl yn amlwg iawn ac yn digwydd mewn 'amser real’. Rwy'n credu bod hyn wedi cael dylanwad ar gyflwyno mesurau mwy uniongyrchol i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol.
Ar sail fy mhrofiad personol, credaf fod rhannu straeon drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a gallu gwasanaethau cyhoeddus i wrando a gweithredu'n gyflym, wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol wrth ymateb i COVID-19 o'i gymharu ag FMD-01. Amser (ac astudiaeth ymchwil mae'n debyg) a ddengys yn y pen draw, ond diolch i'r cyfryngau cymdeithasol rydym yn siarad am y sefyllfa mewn amser real.
1. Gallai cydnabod effaith y cyfryngau cymdeithasol a'r gwahaniaeth rhwng FMD-01 a COVID-19 helpu i nodi cyfleoedd yn ymwneud â sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu a sut rydym yn gwrando (ac yn dysgu).
2. Mae'n bwysig nodi pwy sy'n darparu gwybodaeth ddibynadwy. Meddyliwch am eich rôl fel 'ffynhonnell ddibynadwy’.
3. Rhaid gwybod pryd mae angen i chi wrando'n effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn siarad ac yn rhannu llawer o wybodaeth.
Mae Chris Bolton yn aelod o Dîm Arferion Da Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r swydd yn ymwneud â gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl i nodi a rhannu arferion da er mwyn cefnogi gwelliannau mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Chris yn Aelod o Fwrdd dau sefydliad y tu allan i'r gwaith, ac roedd yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Cofio Winston Churchill yn 2018. Mae Chris yn myfyrio ar y profiadau hyn a phrofiadau eraill ar ei flog personol [agorir mewn ffenestr newydd]: www.whatsthepont.blog. Cyn gweithio ym maes archwilio, bu Chris yn gweithio ym maes gwella a rheoleiddio amgylcheddol.