Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Croeso i'r NuroCove yn Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2025

10 Rhagfyr 2025
  • Rydyn ni’n paratoi ar gyfer y gynhadledd Dyfodol Diamod. Rydyn ni wedi gofyn i Alex o Nurologik ddweud ychydig mwy am sut bydd hi’n cefnogi’r cynrychiolwyr yn y gynhadledd.

    • Rydym yn falch iawn o ddod â man tawel NuroCove i gynhadledd Cyllid ar gyfer y Dyfodol eleni ar 16 Rhagfyr yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd.

      Merch mewn ystafell dywyll yn ysgrifennu ar ddogfen

      Bydd y NuroCove ar gael trwy gydol y dydd i unrhyw gynrychiolydd sydd angen lle tawel, cefnogol i gamu i ffwrdd o ddwyster y digwyddiad. Er ei fod wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer pobl sydd â phryder cymdeithasol, niwroamrywiaeth, a sensitifrwydd synhwyraidd, mae'n agored i bawb.

      Pam mae NuroCove yn bwysig 

      Blancedi a chlustogau ar lawr yr ystafell, wedi’i oleuo’n dywyll gyda golau gwyrdd.

      Mae cynadleddau yn llawn bwrlwm, gwybodaeth a sgwrs, sy'n gyffrous, ond gall hefyd eich llethu. Gall lefelau sŵn, symudiad, goleuadau, disgwyliadau cymdeithasol a thrawsnewidiadau cyflym roi llawer o bwysau ar y system nerfol, hyd yn oed pan fyddwch chi'n mwynhau'r diwrnod.

      Mae'r NuroCove yn cynnig dewis arall sy’n fwy tyner. Y tu mewn mae:

      • goleuadau isel
      • mannau eistedd a gorffwys cyfforddus
      • blancedi medal gyda phwysau ynddynt
      • offer synhwyraidd, ffidlan a daearu
      • amddiffynwyr clustiau
      • gweithgareddau tawelu
      • ac awyrgylch lleddfol, ysgogiad isel

      Mae holl fannau NuroCove yn cael eu goruchwylio gan letywyr sydd wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl, diogelu, ac mae ganddynt ddealltwriaeth fanwl o'r rhwystrau sy'n wynebu unigolion niwroamrywiol.  Bydd eich gwesteiwr NuroCove yn sicrhau bod y lle yn aros yn groesawgar, yn gefnogol ac yn hygyrch. P'un a ydych chi am baratoi cyn sesiwn, adfer ar ôl siarad, neu gymryd eiliad i setlo rhwng gweithgareddau, mae'r NuroCove yno i chi.

      Sticeri Cyfathrebu

      pedwar sticer cyfathrebu

      Bydd sticeri cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) Nurologik ar gael i'ch helpu i nodi sut mae'n well gennych ryngweithio ag eraill. Mae'r sticeri hyn yn cefnogi pobl:

      • nad ydynt yn dymuno neu na allant siarad,
      • y mae'n well ganddynt siarad â phobl gyfarwydd yn unig,
      • a hoffai siarad ond yn ei chael hi'n anodd cychwyn sgwrs, neu
      • yn hapus i siarad ag unrhyw un. 

      Mae'r set yn cynnwys:

      • Gwylio yn unig
      • Dim pobl ddieithr plîs
      • Dechreuwch y sgwrs plîs
      • Hapus i siarad

      Gall y dangosyddion gweledol hyn fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer lleihau pwysau cymdeithasol, yn enwedig mewn amgylcheddau prysur neu anghyfarwydd. Maent yn caniatáu ichi osod ffiniau ysgafn heb orfod esbonio - rhywbeth sy’n tawelu meddyliau llawer o bobl niwroamrywiol a phryderus. 

      Ar gyfer pwy mae'r NuroCove?

      Cadair gyda blancedi a chlustogau

      Mae'r NuroCove wedi'i gynllunio fel cymorth hygyrchedd, yn enwedig i bobl:

      • sy’n awtistig, ag ADHD neu fel arall yn niwroamrywiol
      • sy’n byw gyda gorbryder cymdeithasol
      • sy’n sensitif i sŵn, golau neu symudiad
      • sy’n rheoli gorlwyth synhwyraidd neu wybyddol

      Ond nid oes angen diagnosis arnoch i ddefnyddio'r lle. Os oes angen eiliad o dawelwch, lle i adfer, neu seibiant cyn ailymuno â'r gynhadledd, mae croeso mawr i chi.

      Eiliad ar eich cyfer chi yn unig

      Ein nod yw gwneud y gynhadledd hon yn fwy cynhwysol, cyfforddus a hygyrch i bawb sy'n mynychu. Rydym yn eich annog i ymweld â'r NuroCove ar unrhyw adeg yn ystod y dydd - gall hyd yn oed seibiant byr wneud gwahaniaeth enfawr i les, eglurder a hyder.

      Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r NuroCove.

      Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni ar info@nurologik.com