-
Cyfarwyddwr Archwilio – Archwiliad Perfformiad£92,585-£114,864 (band cyflog C)Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Rydym yn dymuno recriwtio Cyfarwyddwr Archwilio sy’n bennaf gyfrifol am bortffolio o waith archwilio perfformiad cenedlaethol a/neu leol sy'n cynnwys gwerth am arian a chymhwyso'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy' o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Os ydych chi'n angerddol am atebolrwydd a gwella mewn gwasanaethau cyhoeddus, eisiau gweithio gyda phobl wych, ac yn gallu ysbrydoli a grymuso eraill, dyma'r swydd i chi.
Byddwch yn datblygu perthynas â'r rhai sydd ar frig y cyrff yr ydyn ni'n eu harchwilio, a'r rhai sy'n craffu arnynt, i ddylanwadu ar newid cadarnhaol. Gan fodelu'r gwerthoedd a'r ymddygiad sy'n sail i Archwilio Cymru, byddwch yn dod â 'r egni a'r arweinyddiaeth strategol sydd eu hangen arnom i wireddu ein potensial fel ysgogydd i wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru. A byddwch yn gweithio i sicrhau bod ein dull archwilio yn ymateb i’r byd modern a'r materion sy'n bwysig i bobl, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Byddai gennych gyfrifoldeb arweiniol am un neu fwy o dimau archwilio perfformiad ac am weithgarwch ymchwil a datblygu mewn sectorau) - fel iechyd, llywodraeth leol, neu lywodraeth ganolog - a/neu feysydd polisi datganoledig penodol eraill. A byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni'r rhaglen waith archwilio ehangach, gan weithio gyda Chyfarwyddwyr Archwilio eraill fel sy’n briodol.
Y sefydliad
Archwilio Cymru yw'r term ymbarél sy'n disgrifio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru (sy'n endidau cyfreithiol ar wahân). Nod Archwilio Cymru yw rhoi sicrwydd i bobl bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda; esbonio sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario; ac ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol sector cyhoeddus Cymru. Mae'n gyfrifol am archwilio'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus a wariwyd yng Nghymru.
Y broses
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod y cyfle hwn yn anffurfiol, cysylltwch ag Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflawni Archwilio ar 02920 320500, neu e-bostiwch Ann-Marie.Harkin@audit.wales.
Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein gwefan.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Tachwedd 2025 am hanner nos.
I'r rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer, bydd cam nesaf y broses yn digwydd ar yr wythnos yn ddechrau 8fed Rhagfyr 2025.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyder Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â' phob ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.
Rydym yn croesawu ceisiadau wedi’u cyflwyno yn Gymraeg; ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant cefnogol iawn. Rydym yn angerddol am weithio gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru gan wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.
Mae ein pecyn ymgeiswyr yn rhoi mwy o fanylion am ein manteision, ond dyma'r pethau sylfaenol am delerau ac amodau'r rôl hon.
- Contract parhaol.
- Wedi'i leoli yn un o'n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Penllergaer, neu Gyffordd Llandudno, ond gyda gweithio o bell hefyd yn bosibl.
- Cyflog sylfaenol cystadleuol o £92,585 wrth benodi gyda chynnydd yn amodol ar berfformiad (brig y band cyflog yw £114,864).
- Wythnos waith 35 awr (gyda dewisiadau gweithio’n hyblyg).
- 33 diwrnod o wyliau ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus.
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (cyfraniad cyflogeion 7.35%; cyfraniad cyflogwr 28.97%).
- Treuliau adleoli o hyd at £8,000.