Loteri cod post ar gyfer ‘drws blaen’ newydd i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion

12 Medi 2019 - 12:04yb

Er bod canolbwyntio ar wasanaethau ataliol yn helpu i leihau’r galw

Mae cynghorau’n gwneud gwaith da wrth atal y galw am ofal cymdeithasol, ond nid yw gwybodaeth, cyngor a chymorth yn effeithiol yn gyson ledled Cymru. Dyna gasgliad adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Bydd nifer y bobl sy’n 65 oed a throsodd nad ydynt yn gallu rheoli o leiaf un dasg ddomestig ar eu pennau eu hunain yn codi 46% erbyn 2035 a bydd cyfran y boblogaeth y rhagwelir y bydd yn dioddef o salwch hirdymor cyfyngol yn codi 19.4%. Mae’r rhagfynegiadau hyn yn amlygu’r galw am wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, a fydd yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y 30 mlynedd nesaf.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, a darparu ystod ehangach o wasanaethau yn y gymuned drwy bartneriaethau a gwaith amlasiantaeth. I wneud hyn, mae angen i awdurdodau greu ‘drws

 blaen’ cynhwysfawr i ofal cymdeithasol - sy’n canolbwyntio ar ystod ehangach a mwy manwl o wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth – a elwir yn wasanaeth ‘IAA’. Mae’r gwasanaeth hwn yn cyfeirio pobl i wasanaethau ataliol a chymunedol, gan nodi pryd y mae angen asesiad neu gymorth mwy arbenigol ar rywun.

Canfu adroddiad heddiw fod awdurdodau’n canolbwyntio’n fwy ar unigolion yn eu dull gweithredu, ond bod llawer o waith i’w wneud o hyd i hybu mynediad i’r drws blaen er mwyn sicrhau bod pawb a allai elwa ar y gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn eu cael.

Mae’r amrywiaeth eang o ran amlygrwydd ac ansawdd y wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol, y graddau y mae ar gael, a’r gallu i gael gafael arni yn arwain at niferoedd anghyson o bobl yn manteisio ar y gwasanaeth ledled Cymru. Yn aml, nid yw’r awdurdodau yn gwybod ymhle y mae bylchau yn y ddarpariaeth. Heb nodi a mynd i’r afael â’r bylchau hyn, mae rhai awdurdodau yn dal i hyrwyddo pecynnau gofal a gwasanaethau cymdeithasol mwy traddodiadol, gan annog dibyniaeth yn hytrach na hybu annibyniaeth a hunanddibyniaeth. 

Er bod gan gynghorau systemau atgyfeirio effeithiol ar gyfer pobl sydd o bosib angen gwasanaethau cymdeithasol, nid yw gofalwyr yn cael mynediad cyfartal hyd yn hyn. Mae llawer o’r gofalwyr a gyfwelwyd yn parhau i gael anawsterau wrth geisio canfod yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Dywedodd un gofalwr wrthym ni:

“Roeddwn i’n teimlo bod yna ddiffyg gofal ar fy nghyfer. Wrth gael fy asesu ar gyfer addasiadau cartref, cefais gynnig cawod ar y llawr uchaf yn hytrach na lifft grisiau, a fyddai wedi bod yn llawer mwy addas i anghenion fy niweddar ŵr. Yn y diwedd, roedd rhaid i mi dalu £5000 o fy arian fy hun i osod lifft grisiau”.

Er bod y ‘drws blaen’ yn helpu i leihau’r galw, mae gwasanaethau awdurdodau lleol mewn cyfnod pontio ac mae awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd dangos a yw eu dull gweithredu yn helpu pobl wrth gefnogi cynaliadwyedd ariannol y gwasanaethau cymdeithasol. Mae asesiadau gofal cymdeithasol wedi gostwng 17% ers i’r Ddeddf ddod i rym; ond mae gwariant gros mewn termau real ar wasanaethau cymdeithasol personol i oedolion wedi codi 11% o £1,360 miliwn yn 2008-09 i £1,506 miliwn yn 2017-18.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • Yr angen sydd ar gynghorau i fapio’r gwasanaethau ataliol sydd ar gael yn eu hardal er mwyn deall lefelau presennol y ddarpariaeth yn well a nodi bylchau a dyblygiadau.
  • Dylai cynghorau gynnwys partneriaid o’r trydydd sector wrth gyd-gynhyrchu atebion ataliol ar gyfer diwallu anghenion pobl a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau hyn mewn modd teg.
  • Dylai cynghorau adolygu eu dulliau gweithredu presennol, ystyried eu cynulleidfa, a sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd da ar gael mewn modd prydlon er mwyn sicrhau nad yw anghenion yn dirywio gan osgoi’r angen i bobl ofyn am gymorth mewn ‘argyfwng’.
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gofalwyr o’u hawliau i gael eu hasesu ar gyfer eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, heddiw:

“Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’n dda gweld bod gofal cymdeithasol yn canolbwyntio llawer mwy ar ymyrraeth gynnar, gwasanaethau ataliol a chymorth yn y gymuned. Ond mae gormod o amrywiaeth o hyd o ran ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael ledled Cymru, a’r gallu i gael gafael arnynt. Yn benodol, mae angen i awdurdodau bwyso a mesur sut y maent yn gweithredu’r ddeddfwriaeth a newid pwyslais eu hymdrechion er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael gafael ar yr un faint o gymorth sydd ei angen arnynt ac y mae ganddynt hawl iddo.” 

Diwedd

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys offeryn data rhyngweithiol sy’n dangos barn gofalwyr o’n harolwg gofalwyr a chanlyniadau ein harolwg o wefannau. Mae’r offeryn yn galluogi defnyddwyr, ble mae’n briodol, i gloddio ymhellach i dueddiadau fesul awdurdod lleol, ynghyd ag ar lefel cenedlaethol.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ba un a yw cynghorau yng Nghymru yn atal y galw am ofal cymdeithasol ers Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).
  • Gellir gweld astudiaethau achos mewn cysylltiad â sylwadau gofalwyr ar dudalennau 28-29 (Saesneg) a 31-32 (Cymraeg).
  • Ceir ein hargymhellion ar dudalennau 8-9 (Saesneg) a 9-10 (Cymraeg).
  • Mae siaradwyr Cymraeg a Saesneg ar gael.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Ef sy’n gyfrifol am archwilio’n flynyddol y rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus a werir yng Nghymru, gan gynnwys gwerth £15 biliwn o gronfeydd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio yn eu cylch yn flynyddol. Trosglwyddir elfennau o’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na’r llywodraeth. 
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag ymarfer ei swyddogaethau.