Mae’r gwaith a wnaed ers yr Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan gynnwys gwaith y rheoleiddwyr perthnasol, wedi’i nodi yn yr adroddiad hwn.
Yn seiliedig ar y gwaith, ac yn gyfyngedig i’r gwaith, a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru a rheoleiddwyr perthnasol, cred yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (2009) yn ystod 2019-20.